Pro 14: Scarlets 38-29 Benetton

Gareth Davies Image copyright Huw Evans picture agency

Bu'n rhaid i'r Scarlets ymladd hyd y diwedd wrth iddynt guro Benetton 38-29, mewn gwledd o rygbi gyda 10 cais.

Roedd perfformiad yr Eidalwyr hyd yn oed yn fwy trawiadol gan iddynt chware 55 munud gyda 14 o chwaraewyr ar y cae.

Croesodd Gareth Davies (2), Kieron Fonotia, Johnny McNicholl, Ed Kennedy a Tom Prydie i'r tîm cartref.

Tarodd Benetton yn ôl drwy Nicola Quaglio, Simone Ferrari, Monte Ioane a Tommy Allen. Fe wnaeth Allen hefyd ychwanegu naw pwynt gyda'i esgid.

Roedd y sgôr terfynol ychydig yn garedig i'r Scarlets, oedd ar ei holi hi am tua hanner y gêm.

Llwyddodd Leigh Halfpenny i drosi pedwar, ac roedd o hefyd yn amlwg wrth ymosod.

Yr wythwr Blade Thomson oedd seren y gêm.

Pynciau Cysylltiedig