Adran Dau: Casnewydd 0-6 Yeovil

Yeovil Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd Casnewydd, ddechreuodd y diwrnod yn yr ail safle yn Adran Dau, gweir o chwe gôl ar domen eu hunain.

I roi halen ar y briw, cafodd Robbie Willmott ei anfon o'r cae 10 munud cyn y diwedd.

Mae Casnewydd yn gostwng i'r trydydd safle, tra bod Yeovil, sy'n ddiguro, yn dringo i'r pumed safle.

Roedd Yeovil 3-0 ar y blaen ar yr egwyl, gyda goliau gan Yoann Arquin, Jordan Green a Diallang Jaiyesimi.

Sgoriodd Green eto yn yr ail hanner, gyda goliau hefyd i Olufela Olomola a Carl Dickinson.

Ar ôl y gêm fe wnaeth y rheolwr Mike Flynn ymddiheuro i'r cefnogwyr am berfformiad ei dîm.