Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-0 Nottingham Forest

Declan John yn herio Matty Cash Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Declan John yn herio Matty Cash

Llwyddodd yr Elyrch i ddringo i safle gemau ailgyfle y Bencampwriaeth er gwertha'r ffaith iddynt orfod bodloni ar gêm gyfartal yn Stadiwm Liberty.

Roedd hi'n gêm gem agos a chystadleuol ond heb fawr safon, gyda'r ddau dîm yn ei chael yn anodd i fanteisio ar gyfleoedd.

Daeth bygythiad pennaf y tîm cartref oddi wrth y bartneriaeth rhwng Oli McBurnie a Bersant Celina.

Aeth Ben Osborn yn agos i Forest ddwywaith, tra bod cyfle gorau Abertawe wedi mynd i Joel Asoro.

Golygai'r canlyniad fod Abertawe yn codi i'r chweched safle, tra bod Forest yn gostwng i safle 15.