Enzo Calzaghe yn ddifrifol wael, medd teulu

Enzo Calzaghe (dde) yn dathlu ar ôl i Joe dderbyn CBE yn 2008 Image copyright Getty Images
Image caption Enzo Calzaghe (dde) yn dathlu ar ôl i Joe dderbyn CBE yn 2008

Roedd Enzo Calzaghe, tad cyn pencampwr bocsio'r byd Joe, yn ddifrifol wael yn yr ysbyty, nos Wener.

Mae ei deulu wedi gwadu adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi marw.

Enzo oedd yn hyfforddi Joe wrth iddo gipio pencampwriaeth y byd, mewn dau gategori pwysau gwahanol, mewn gyrfa ddiguro o 46 gornest.

Er nad oedd ganddo unrhyw brofiad fel hyfforddwr, fe wnaeth Enzo hefyd lwyddo i sicrhau pencampwriaethau'r byd i Gavin Rees a Enzo Maccarinelli

Nos Wener fe wnaeth nith Enzo, Carrie, gyhoeddi neges ar y gwefannau cymdeithasol: "Dyw fy ewythr Enzo Calzaghe heb farw, mae hyn yn newyddion ffug, mae o'n fyw ond yn sâl iawn.

"Plis rhowch amser i ni fel teulu. Mae e'n fyw ac yn ymladd.

"Fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd pan allwn," meddai'r neges.

"Plis parchwch ein preifatrwydd. Diolch yn fawr."