Pro 14: Munster 49 - 13 Gweilch

Munster v Ospreys Image copyright Inpho

Mae'r Gweilch wedi colli am y tro cyntaf y tymor hwn wedi perfformiad siomedig oddi cartref yn erbyn Munster.

Dim ond tri aelod o'r tîm a drechodd y Cheetas penwythnos diwethaf dechreuodd y gêm yn Cork, a ni allai'r ymwelwyr ddelio gyda chryfder a chyflymder y tîm cartref.

Roedd Munster wedi sicrhau pwynt bonws cyn hanner amser, ar ôl i Carbery, James Cronin a Rhys Marshall drosi cyn i'r Gweilch ildio cais gosb.

Yn ogystal, roedd rhaid i'r Gweilch ddelio gyda dau o'u chwaraewyr, Giorgi Nemsadze ac Adam Beard, yn derbyn cerdyn melyn.

Yr asgellwr Luke Morgan sgoriodd unig gais y gêm i'r Gweilch gyda 60 munud ar y cloc.

Ychwanegodd Marshall, Arno Botha a Darren Sweetnam at fantais y Gwyddelod i goroni perfformiad campus.

Bydd y Gweilch yn gobeithio taro 'nol gyda buddugoliaeth wrth iddynt herio Benetton yn Stadiwm Liberty 22 Medi.

Pynciau Cysylltiedig