Pennu dyddiad ar gyfer cwest tân angheuol Llangamarch

Llangamarch

Fe fydd cwest i farwolaeth tad a phump o blant o Langamarch, Powys, yn cael ei gynnal ar 22 Hydref.

Bu farw David Cuthbertson, oedd yn 68 oed, a phump o'i blant mewn tân yn eu cartref ar 30 Hydref 2017.

Fe wnaeth tri o blant eraill - 10, 12 a 13 oed - lwyddo i ddianc o'r tân.

Bu farw Gypsy Grey Raine, pedair, Patch Raine, chwech, Misty Raine, naw, Reef Raine, 10, a Just Raine, 11, yn y digwyddiad.

Ddydd Gwener mewn gwrandawiad rhagblaen yn y Trallwng, dywedodd y crwner Andrew Barkley, fod ymchwiliad yr heddlu i'r achos yn parhau ond nad oedd yna unrhyw reswm pam na ddylid cynnal cwest llawn i'r marwolaethau.

Mae disgwyl i'r gwrandawiad bara un diwrnod a bydd yn cael ei gynnal yn y Trallwng.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol