Hanes y gymuned Iddewig yng Nghymru

Image caption Siop Gemwaith Morris Wartski, Y Stryd Fawr, Bangor (tua 1895). Daeth Morris Wartski i'r Deyrnas Unedig yn yr 1870au o Rwsia.

Mae'n amser pwysig o'r flwyddyn i Iddewon ar draws y byd: maen nhw newydd ddathlu blwyddyn newydd yr Iddewon, Rosh Hashanah, ddechrau Medi ac mae Yom Kippur, dydd mwyaf sanctaidd y calendr Iddewig, yn digwydd ar Medi 19.

Ond beth yw hanes y gymuned Iddewig yng Nghymru?

Yr hanesydd Dr Cai Parry-Jones sy'n dilyn hynt y gymuned Iddewig ers i erledigaeth yn eu gwledydd brodorol ddod â nhw i Gymru gyntaf tua 250 mlynedd yn ôl, lle sefydlon nhw fynwentydd, synagogau a siopau adnabyddus fel Wartski ym Mangor.


Dianc rhag erledigaeth a thlodi

Daw'r dystiolaeth gynharaf o gymuned Iddewig yng Nghymru o 1768, pan sicrhaodd Iddew o'r enw David Michaels brydles am fynwent Iddewig yn Abertawe.

Saith degawd yn ddiweddarach, sefydlwyd cymuned Iddewig yng Nghaerdydd yn 1841, ac erbyn yr 1850au roedd cymunedau Iddewig bach yn bodoli mewn mannau fel Merthyr Tudful a Chasnewydd.

Image caption Plac cerrig yn coffáu agor mynwent Iddewig gyntaf Caerdydd yn Highfield Rd, Mynydd Bychan, yn 1841

Setlodd ymfudwyr Iddewig yn ne ddwyrain Cymru yn ystod y cyfnod hwn i ddianc rhag erledigaeth hiliol a rhwystriadau economaidd yn eu gwledydd brodorol - gwladwriaethau yng nghanol Ewrop oedd rhain yn bennaf, fel Prwsia.

Roedden nhw hefyd yn chwilio am gyfleoedd economaidd newydd yng Nghymru, gwlad a oedd yn diwydiannu yn gyflym yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Er i nifer fechan o fewnfudwyr Iddewig benderfynu gweithio mewn diwydiannau cynradd fel mwyngloddio glo, roedd y mwyafrif helaeth yn gweithio yn y byd masnach a manwerthu fel gwerthwyr teithiol a pherchnogion siopau (delwyr gemwaith, dodrefn, dillad, teiliwyr ayyb).

Roedd galw mawr am wasanaethau o'r fath yn nhrefi a phentrefi diwydiannol de Cymru a dyma oedd y math o swyddi yr oedd Iddewon yn tueddu i'w gwneud yn eu gwledydd brodorol. Roedd hyn oherwydd cyfyngiadau economaidd - mewn rhai gwladwriaethau, nid oedd gan Iddewon yr hawl i fod yn gyfreithwyr, gwleidyddion neu fynychu prifysgol.



Yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd nifer poblogaeth Iddewig Cymru yn y cannoedd. Ychydig dros hanner canrif yn ddiweddarach, fe chwyddodd y boblogaeth i tua 5,000 o bobl.

Nid oedd y cynnydd yn y niferoedd yn unigryw i Gymru, ond roedd yn adlewyrchu tuedd demograffig ehangach ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif pan wnaeth miliynau o Iddewon ffoi Ymerodraeth Rwsia i osgoi erledigaeth hiliol a thlodi.

Aeth y mwyafrif i America i fyw y 'freuddwyd Americanaidd' ond penderfynodd rhai setlo yng Nghymru am yr un rhesymau ag ymfudwyr Iddewig cynharach - cyfleoedd gwaith yn bennaf.

Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd dros 20 o gymunedau Iddewig yn bodoli ar draws Cymru - yn ymestyn o Fangor i Gasnewydd.

Yn ddiweddarach fe ymunodd ffoaduriaid Iddewig o'r Almaen Natsïaidd a ddaeth i Gymru, a Phrydain yn fwy cyffredinol, yn yr 1930au a'r 1940au i ffoi erledigaeth a cheisio lloches.

Roedd y cymunedau yn amrywio'n fawr o ran maint a chyfoeth, gyda'r gymuned fwyaf (Caerdydd) yn rhifo tua 3,000 o bobl ar ei uchafbwynt yn yr 1960au, a'r cymunedau llai (Llandudno, Tredegar a Llanelli er enghraifft) yn cyrraedd uchafbwynt yn y cannoedd isel yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Image caption Synagog Llandudno, Church Walks. Symudodd y gymuned i'r hen dŷ hon yn 1948. Ers 2004 mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio yn bennaf fel canolfan wyliau i Iddewon Hasidic o Fanceinion

Er y gallai cymuned Iddewig fawr fel Caerdydd fforddio adeiladu synagog crand yn Heol y Gadeirlan yn 1897, roedd cymunedau llai fel Wrecsam a Rhyl (llond llaw o deuluoedd ar y mwyaf) ond yn gallu fforddio llogi ystafelloedd o fewn adeiladau masnachol neu ddefnyddio ystafelloedd mewn tai i weddïo.

Heddiw, dim ond pedwar synagog sydd yn dal i weithredu yng Nghymru (dau yng Nghaerdydd, un yn Llandudno ac un yn Abertawe) - yn gwasanaethu poblogaeth Iddewig o ddim mwy na 2,000 o bobl.

Mae nifer o ffactorau dros y dirywiad yn niferoedd yr Iddewon a'r cymunedau Iddewig yng Nghymru - twf mewn seciwlariaeth (sydd hefyd yn adlewyrchu'r sefyllfa gyda Christnogaeth); Iddewon yn symud i gymunedau gyda mwy o gyfleusterau Iddewig fel Llundain a Manceinion; plant yn mynd i'r Brifysgol a phenderfynu peidio â dychwelyd i Gymru; cwymp yn y gyfradd cenhedlu; Iddewon yn priodi allan o'r gymuned; ymfudo i Israel ('Gwlad yr Addewid'); a dirywiad economaidd Cymru (yn enwedig yng nghymoedd y de).

Image caption Yn wreiddiol o Lanelli, mae Michael Howard yn un enghraifft o Iddew Cymreig a benderfynodd beidio â dychwelyd yn ôl i'r dref ble cafodd ei fagu ar ôl mynychu'r brifysgol.

Er gwaethaf y dirywiad, yr hyn sy'n bwysig i'w nodi yw nad yw pob Iddew yn uniaethu gyda chymuned neu'n grefyddol. Pe bai bywyd cymunedol Iddewig yn diflannu yng Nghymru yn y dyfodol, mae bron yn sicr y byddai presenoldeb Iddewig o ryw fath yn parhau yn y wlad o hyd.


Dr Cai Parry-Jones yw awdur The Jews of Wales: A History sy'n deillio o'i ddoethuriaeth ar y pwnc.

Pynciau Cysylltiedig