Morgannwg yn colli o naw wiced yn erbyn Sir Gaerloyw

Chris Dent Image copyright Getty Images
Image caption Llwyddodd capten Sir Gaerloyw, Chris Dent, sgorio 25 rhediad i'r ymwelwyr

Mae Morgannwg wedi colli o naw wiced ar ddiwrnod olaf eu gêm yn erbyn Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd.

Dyma oedd y chweched golled yn olynol i Forgannwg, sydd yn parhau ar waelod y tabl.

Fe orffennodd Morgannwg ar gyfanswm o 251 rhediad yn eu hail fatiad, gan olygu fod Sir Gaerloyw angen 35 i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Cafodd Niles Hammond ei fowlio allan ym mhelawd gyntaf yr ymwelwyr, ond aeth y capten Chris Dent (25) a James Bracey (10) ymlaen i gyrraedd y targed yn gyfforddus.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol