Geraint Thomas ddim yn rhan o dîm seiclo ffordd Prydain

Geraint Thomas Image copyright Getty Images

Ni fydd pencampwr y Tour de France, Geraint Thomas, yn rhan o dîm dynion Prydain ar gyfer Pencampwriaeth Seiclo Ffordd y Byd.

Mae Thomas a Chris Froome, a orffennodd yn drydydd yn y Tour, wedi eu gadael allan o'r tîm ar gyfer y gystadleuaeth yn Awstria rhwng 23-30 Medi.

Yn ôl British Cycling, roedd y ddau ar y rhestr hir - ond roedd peidio eu cynnwys yn benderfyniad a wnaed ar y cyd.

Yr unig gynrychiolydd o Gymru yn y Bencampwriaeth fydd Dani Rowe, sy'n rhan o dîm seiclo ffordd y merched.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol