Teuluoedd sy'n mabwysiadu yn galw am well cefnogaeth
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Profiad positif un fam sydd wedi mabwysiadu

11 Medi 2018 Diweddarwyd 10:57 BST

Mae angen mwy o gefnogaeth ymarferol ac emosiynol ar deuluoedd sy'n mabwysiadu, yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Dywedodd un fam, sydd wedi bod drwy'r broses, ei bod yn teimlo bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi cefnu arni ar ôl iddi fabwysiadu brawd a chwaer 10 mlynedd yn ôl.

Ond profiad gwahanol yw un Eurgain Haf, sy'n dweud iddi hi gael cefnogaeth anhygoel gan yr awdurdod lleol gydol yr amser.