Beirniadu cynlluniau newid etholaethau

Ty'r Cyffredin
Image caption Mae'r cynigion yn gostwng nifer yr ASau Cymreig i 29

Mae cynlluniau terfynol i ad-drefnu Tŷ'r Cyffredin - cynlluniau fyddai'n golygu lleihau nifer yr ASau o Gymru o 40 i 29 - wedi cael eu cyhoeddi ddydd Llun.

Ond mae un AS Ceidwadol o'r canolbarth wedi dweud y byddai'r newidiadau yn "tanseilio democratiaeth" mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Glyn Davies, AS Sir Drefaldwyn, y byddai'r cynlluniau yn "chwalu canrifoedd o hanes" ac y byddai'n annemocrataidd i dorri niferoedd Tŷ'r Cyffredin, tra bod niferoedd yr Arglwyddi yn cynyddu i 800.

Dywedodd Mr Davies fod yr holl broses i dorri costau wedi cael ei sbarduno oherwydd sgandal costau a threuliau ASau.

Cafodd y cynllun gwreiddiol ei gefnogi gan y Senedd yn 2011, ond bu'n rhaid ei roi o'r neilltu ar ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn rhan o lywodraeth glymblaid, benderfynu peidio â'i gefnogi.

O ganlyniad, fe gafodd yr etholiadau cyffredinol yn 2015 a 2017 eu cynnal dan drefn yr etholaethau presennol.

Image caption Cred Glyn Davies AS fod y newidiadau yn mynd yn rhy bell

Yn ogystal â lleihau nifer yr aelodau seneddol, bwriad y newidiadau yw ceisio sicrhau bod nifer yr etholwyr ym mhob etholaeth rhwng 71,000 a 79,000.

"Rwy'n credu fod angen i etholaethau fod yn fwy tebyg o ran maint, ond nid i ddiffiniad mor gul a sy'n cael ei gynnig nawr," meddai Mr Davies wrth BBC Cymru.

Mae'n dweud y bydd y newidiadau yn niweidiol iawn i ardaloedd gwledig.

"Fe fydd democratiaeth seneddol yng nghanolbarth Cymru i bob pwrpas yn cael ei waredu.

"Byddai hynny yn siom fawr gan ei fod yn rhan bwysig o hanes Cymru."

Mae adroddiad terfynol y Comisiwn Ffiniau ddydd Llun yn cadarnhau'r cynnig i rannu etholaeth Sir Drefaldwyn yn ddwy, gyda'r gogledd yn cael ei uno gyda De Clwyd, a'r rhan ddeheuol yn cael ei uno gyda Brycheiniog a Maesyfed.

Image copyright Y Comisiwn Ffiniau
Image caption Map o gynigion 2017 y Comisiwn Ffiniau

Fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd 19 o newidiadau i argymhellion cyntaf y comisiwn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016.

Yn wreiddiol, roedd rhannu tref Port Talbot rhwng dwy etholaeth ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol.

Llynedd, cafodd hyn ei newid gydag etholaeth arfaethedig Ogwr ac Aberafan yn cynnwys yr holl dref.

Newid arwyddocaol arall yn 2017 oedd cynnwys Caernarfon yn etholaeth newydd Gwynedd, yn hytrach nag etholaeth Ynys Môn a Bangor.

Bydd yn rhaid i ASau gymeradwyo unrhyw newidiadau.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol