Pro 14: Benetton 27-25 Gleision

Lloyd Williams Image copyright Lluniau Huw Evans

Fe wnaeth cais funud ola, a throsgais, roi buddugoliaeth i Benetton yn erbyn Gleision Caerdydd yn Stadio Monigo yn Treviso brynhawn Sadwrn.

Tommaso Allan gafodd y cais cyntaf i'r tîm cartref, cyn wedyn ildio cais gosb i'r Gleision.

Er i Sebastian Negri hawlio cais arall i Benetton, fe gadwodd Gareth Anscombe a Jarrod Evans y sgôr yn agos gyda thri cic gosb yr un i'r Gleision.

Ond fe dalodd yr ymwelwyr yn ddrud am ddiffyg disgyblaeth, a bu'n rhaid iddyn nhw chwarae diwedd y gem gyda 13 dyn ar ôl i Brad Thyer a Rhys Gill gael eu hanfon i'r gell gosb.

Fe fanteisiodd Benetton ar y gwagle ar y cae, gyda Monty Ioane yn croesi am gais yn y munudau ola, gyda Allan unwaith eto'n cadw ei ben a sicrhau'r trosgais, a'r fuddugoliaeth.

Tor calon i'r Gleision wrth iddyn nhw am yr ail benwythnos yn olynnol yn y Pro 14 golli o drwch blewyn.

Pynciau Cysylltiedig