'Amser cyffrous' i garfan ifanc Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Osian Roberts: 'Amser cyffrous' i garfan ifanc Cymru

7 Medi 2018 Diweddarwyd 08:52 BST

Cafodd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru fuddugoliaeth wych i ddechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd gan roi cweir i Weriniaeth Iwerddon o 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.

Fe gafodd yr is-reolwr Osian Roberts a'r amddiffynnwr Ben Davies eu holi yn dilyn y chwiban olaf, gan ddweud ei bod yn "amser cyffrous" i'r garfan ifanc.

Ychwanegodd y ddau eu bod yn falch bod Denmarc wedi gallu datrys y ffrae rhwng y gymdeithas bêl-droed a nifer o'r chwaraewyr mwyaf adnabyddus ynglŷn â hawliau masnachol, ac mai'r garfan gryfaf y bydd Cymru'n eu herio yn Aarhus ddydd Sul.