System gofal cartref 'dan straen', yn ôl Comisiynydd

Gofal

Mae'n destun pryder fod nifer y digwyddiadau gofal cartref sydd wedi eu cofnodi gan arolygwyr yng Nghymru wedi treblu yn yr wyth mlynedd diwethaf.

Dyna farn Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ar ôl i Arolygiaeth Gofal Cymru gofnodi 3,861 o ddigwyddiadau y llynedd, o'i gymharu â 1,014 yn 2010.

Mae'r data - a ddaeth yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru - yn cynnwys adroddiadau amrywiol o syrthio yn y cartref i honiadau o gamymddwyn yn erbyn gofalwyr.

Yn ôl y Comisiynydd, Heléna Herklots, mae'r duedd yn awgrymu fod y system "dan straen", a bod nifer o ofalwyr yn ei chael hi'n anodd darparu gofal o ansawdd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi diwygio cyfreithiau gofal cymdeithasol yn 2016 i sicrhau fod pobl yn cael y "gwasanaeth gorau posib".

'Pwysau aruthrol'

Dangosa'r data hefyd fod 310 achos ers 2015 lle'r oedd rhaid i'r heddlu ymateb i ddigwyddiad yng nghartref unigolyn dan ofal, yn ogystal â 201 achos o ddwyn neu ddigwyddiadau difrifol eraill.

Yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru, mae newid i'r rheolau yn 2016 wedi arwain at fwy o adroddiadau o gamgymeriadau meddyginiaeth.

Mae'r ffigyrau yn amcangyfrif bod 203 camgymeriad meddyginiaeth wedi eu cofnodi yn 2010/11, tra bod y ffigwr wedi codi i 1,026 llynedd.

Ychwanegodd Ms Herklots: "Gwyddom fod y system gofal dan bwysau aruthrol,

"Mae'r cyllid yn annigonol. Mae yna ddiffyg cefnogaeth i nifer o bobl hŷn ac mae darganfyddiadau'r ymchwiliad yma yn dangos hynny."

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Mae Ms Herklots yn awgrymu fod y data yn dangos fod y system "dan straen"

Dywedodd Unison Cymru, yr undeb sy'n cynrychioli gofalwyr cartref, fod y system "mewn argyfwng", i'r pwynt fod iechyd a diogelwch y rhai mewn gofal mewn perygl.

Yn ôl Matthew Egan o Unsain, dangosodd arolwg ymysg gofalwyr nad oedd hyd at 25% ohonynt wedi derbyn unrhyw hyfforddiant mewn rhoi meddyginiaeth.

"Nid yw pobl mewn oed a phobl anabl yn derbyn y gofal sydd ei angen oherwydd bod y gweithlu dan ormod o bwysau," meddai.

"Mae yna ddiffyg cefnogaeth, mae'r cyflogau yn rhy isel a does dim digon o hyfforddiant ar gael."

Pob achos yn 'drasiedi'

Dywedodd Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru, Arwel Ellis Owen: "Ffigyrau yn drasiedi ond ddim yn sypreis mewn gwirionedd" oherwydd bod 150,000 o bobl yng Nghymru sy'n dibynnu ar ofal dyddiol, a 70,000 o weithlu.

Dyna sy'n achosi'r ffigyrau "hynod siomedig yma, ac mae pob un o'r rhain yn drasiedi yn ei hun".

Ychwanegodd bod Gofal Cymdeithasol Cymru yn y broses o gofrestru hyd at 50,000 o weithwyr, fydd yn golygu rhoi hyfforddiant a sicrhau cymwysterau yn y dyfodol.

Er i gyflogau gweithwyr gofal godi yn ddiweddar, dywedodd nad oedd yn ddigonol i "gyfateb ag anghenion y diwydiant".

"Mae hwn yn ddiwydiant sydd yn tyfu... Ac felly mae gwir angen mwy a mwy o staff sydd wedi cael y cymwysterau iawn i ddod i mewn i'r sector yma."

Arwyddion 'calonogol'

Dywedodd Mario Kreft o Fforwm Gofal Cymru fod y pwysau ar y system wedi arwain at wirio, hyfforddi a chefnogaeth annigonol ar gyfer gofalwyr.

Ond dywedodd Colin Angel o'r UK Homecare Association, corff sy'n cynrychioli cwmnïau gofal, fod y cynnydd mewn digwyddiadau dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i gofnodi achosion yn well.

"Mae hi'n galonogol fod darparwyr gofal yn gwneud mwy o ailgyfeiriadau i Arolygiaeth Gofal Cymru," meddai.

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "cyflwyno Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 wedi darparu ffordd newydd o reoleiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru".

"Un elfen o hyn yw'r cyfle i adolygu a chynnig eglurder i ddarparwyr gofal am drothwyon hysbysu'r rheolydd, Arolygiaeth Gofal Cymru, am ddigwyddiadau all effeithio iechyd pobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau.

"Mae hyn yn helpu cefnogi gwelliannau cyson sy'n sicrhau fod y sector yn gallu darparu gofal cymdeithasol o ansawdd dda i bobl ar hyd Cymru."

Straeon perthnasol