Cymru i herio Lloegr ac Iwerddon cyn Cwpan Rygbi'r Byd

Cymru v Lloegr Image copyright Rex Features

Fe fydd Cymru'n wynebu Lloegr ac Iwerddon ddwywaith yr un fel rhan o'u paratoadau ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y byddai'r tîm yn wynebu'r Saeson yn Twickenham ar 11 Awst cyn eu croesawu i Gaerdydd chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Bydd Cymru hefyd yn herio Iwerddon yn Stadiwm Principality ar 31 Awst, cyn teithio i Ddulyn ar gyfer eu gêm baratoadol olaf ar 7 Medi.

Mae'n rhaid i Warren Gatland enwi ei garfan derfynol ar gyfer y gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal yn Japan, erbyn dechrau mis Medi.

Fe fydd y crysau cochion yn wynebu Awstralia, Georgia, Ffiji ac Uruguay yn eu grŵp.