Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Halifax

Jake Lawlor Image copyright Rex Features
Image caption Fe wnaeth Jake Lawlor ei ymddangosiad cyntaf dros Wrecsam

Mae Wrecsam wedi llithro o frig y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Halifax Town.

Fe aeth ymosodwr y Dreigiau, Mike Fondop yn agos at ganfod unig gôl y gêm gydag ergyd o 40 llathen wnaeth daro'r trawst.

Daeth hynny wedi i Halifax roi'r bêl yng nghefn y rhwyd dim ond i weld y gôl yn cael ei gwrthod oherwydd trosedd.

Bydd gem nesaf Wrecsam oddi cartref yn Braintree, sydd ar waelod y gynghrair, ddydd Sadwrn.

Pynciau Cysylltiedig