Sir Derby allan am 251 rhediad yn erbyn Morgannwg

Billy Godleman Image copyright Getty Images

Llwyddodd capten Sir Derby, Billy Godleman i sgorio 95 o rediadau er mwyn arwain ei dîm i gyfanswm o 251 ar ddiwrnod cyntaf eu gornest yn erbyn Morgannwg.

Wrth i weddill ei dîm gael eu bowlio un wrth un, llwyddodd Godleman i bara'r rhan fwyaf o'r diwrnod cyn i Graham Wagg gymryd ei wiced.

Gorffennodd Wagg gyda thair wiced, gyda Timm van der Gugten hefyd yn cymryd tair o wicedi'r tîm cartref.

Llwyddodd Morgannwg i oroesi nes diwedd y dydd yn eu batiad nhw, gan gyrraedd 20-0 wedi chwe phelawd.

Pynciau Cysylltiedig