Diwydiant bwyd yn annog cefnogaeth i gynlluniau Brexit

Wisgi Penderyn yn Aberhonddu

Mae rhybudd bod angen cymryd camau i warchod y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi Brexit gan gyrff amlwg o fewn y byd busnes a ffermio.

Gall BBC Cymru ddatgelu bod y CBI ac NFU Cymru, mewn llythyr ar y cyd i 40 o ASau Cymru, wedi galw am gefnogaeth i bapur gwyn Llywodraeth y DU.

Dywedodd Downing Street y byddai modd iddyn nhw weithredu eu cynllun, a gafodd ei lunio ym mis Gorffennaf, ar gyfer y berthynas fasnach gyda'r UE yn y dyfodol.

Ond mae beirniadaeth wedi bod o fewn y blaid Geidwadol yn ogystal â'r Undeb Ewropeaidd i'r cynlluniau hynny.

'Ewrop yn bwysig'

Mae bron i 75% o allforion bwyd a diod Cymru'n mynd i'r UE, ac mae'r diwydiant werth tua £6.9bn y flwyddyn i'r wlad.

Gyda llawer o'r 240,000 o weithwyr yn y diwydiant yn dod o gwmnïau bach a chanolig, mae pryder nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed yn y trafodaethau Brexit am nad oes ganddyn nhw'r pŵer lobïo sydd gan y cwmnïau mawr.

Mae'r llythyr gan y ddau gorff hefyd yn galw am rôl amlycach i Lywodraeth Cymru yn y broses o lunio polisi, ac am ragor o gefnogaeth i fusnesau ar ôl Brexit.

Maen nhw hefyd eisiau gweld yr un lefel o gyllid yn cael ei ddarparu i amaeth yng Nghymru wedi i'r DU adael yr UE.

Image caption Mae cwmni wisgi Penderyn yn allforio tua 25% o'u cynnyrch dramor

Mae cwmni wisgi Penderyn o Rondda Cynon Taf yn un sy'n allforio chwarter ei chynnyrch, a dywedodd y prif weithredwr Stephen Davies y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn drychineb.

"Mae Ewrop yn bwysig iawn i ni fel busnes - rydyn ni'n mewnforio deunydd crai, gwydr o Ffrainc - ond hefyd yn allforio," meddai.

Dywedodd bod marchnadoedd tramor eraill yn cynnig potensial, ond nad oedd modd "anwybyddu" y galw am y cynnyrch ar y cyfandir.

"Mae cyfleoedd yna ond dwi'n meddwl ar gyfer busnes fel ni, mae gallu cael y cysondeb yna o fasnachu gydag Ewrop yn hynod bwysig," ychwanegodd.

'Osgoi tollau'

Dywedodd John Davies, llywydd NFU Cymru sydd yn ffermio ger Aberhonddu, bod eisiau eglurdeb yn ogystal ag ymdriniaeth o'r pwnc mewn modd "pragmatig a synhwyrol".

"Roedden ni'n falch o weld bod cynhyrchu bwyd yn rhan o'r cytundeb a'i fod yn cynnwys masnachu'n rhydd a dilyffethair gyda'r farchnad fwyaf a gorau ar gyfer ein cynnyrch," meddai.

"Roedden ni'n awyddus iawn i weld hynny'n digwydd."

Nid osgoi tollau yw'r unig fater dan sylw - mae amaethwyr hefyd eisiau gweld cydweithio'n parhau ar safonau diogelwch bwyd er mwyn sicrhau bod modd ei fasnachu'n rhwydd ar draws ffiniau.

Image caption Mae'r Ceidwadwr David Jones yn dweud ei bod hi'n bryd i Lywodraeth y DU "ailedrych" ar eu cynlluniau

Mae'r llythyr yn dweud y byddai'n "galonogol tu hwnt" petai rheolau cyson gyda'r UE er mwyn cryfhau'r cadwyni bwyd cymhleth sy'n bodoli.

Ychwanegodd cadeirydd CBI Cymru, Mike Plaut nad oedd pobl yn sylwi pa mor bwysig oedd y sector bwyd a diod.

"Yng Nghymru mae gennym ni fusnesau da iawn sydd yn cynhyrchu bwyd, ac mae angen i ni eu hybu a sicrhau nad yw Brexit yn eu niweidio."

Ddydd Llun dywedodd y cyn-weinidog Brexit, David Jones ei fod yn credu bod cytundeb y llywodraeth a gafodd ei lunio yn Chequers "wedi dod i ben".

Ychwanegodd AS Gorllewin Clwyd: "Dwi'n meddwl mewn realiti nad oes gan Rif 10 unrhyw beth i'w wneud ond ailedrych ar Chequers a meddwl am ddatrysiad gwahanol."

Straeon perthnasol