Y Bencampwriaeth: Millwall 1-2 Abertawe

Chwaraewyr Abertawe'n dathlu sgorio yn erbyn Milwall Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Abertawe wedi cael buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Millwall oddi cartref er iddyn nhw chwarae'r rhan fwyaf o'r gêm gydag ond 10 dyn.

Fe gafodd Courtney Baker-Richardson gerdyn coch wedi pum munud am dacl flêr ar James Meredith.

Daeth y goliau i gyd yn yr ail hanner gyda Jed Wallace yn rhoi'r tîm cartref ar y blaen wedi 62 o funudau.

Ond fe ddaeth yr Elyrch yn gyfartal chwarter awr yn ddiweddarach diolch i'r eilydd, Kyle Naughton.

Fe sgoriodd Oliver McBurnie ail gôl Abertawe gyda phum munud yn weddill o'r 90 munud.

Roedd dwy gôl Abertawe'n deillio o chwarae Jefferson Montero a ddaeth i'r maes o'r fainc wedi anaf i Martin Olsson.

Yr amddiffynnwr o Sweden oedd chwaraewyr gorau tîm Graham Potter cyn iddo orfod gadael y maes wedi 66 o funudau.

Roedd yna gyfleoedd agos i'r ddwy ochor yn y 20 munud olaf a daeth Tom Elliott o fewn dim i sicrhau gêm gyfartal i Millwall gyda chyffyrddiad olaf y gêm.

Mae Abertawe wedi codi i'r chweched safle yn y tabl.