Adran 2: Port Vale 1 - 2 Casnewydd

Dan Butler (canol) yn dathlu sgorio dros Gasnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dan Butler (canol) yn dathlu sgorio ail gôl Casnewydd

Mae Casnewydd wedi codi i'r ail safle yn Adran Dau wedi buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Port Vale.

Aeth Yr Alltudion ar y blaen gyda gôl Scott Bennett ar ôl 19 o funudau wedi i'r tîm cartref fethu â delio â chic gornel Matty Dolan.

Mewn llai na 10 munud roedd peniad Tom Pope wedi unioni'r sgôr.

Ond fe gafodd mantais yr ymwelwyr ei hadfer yn fuan wedi'r egwyl wedi chwarae gwych gan Mike Harris a gôl gan yr amddifynnwr, Dan Butler.

Cafodd Port Vale sawl cyfle i daro'n ôl cyn y chwiban olaf ond fe lwyddodd Casnewydd i ddal eu tir.

Dywedodd eu rheolwr, Mike Flynn bod ei chwaraewyr yn "haeddu ennill" ar ôl amddiffyn mor gampus.

"I mi, hwn oedd buddugoliaeth bwysicaf y tymor," meddai.