Jayne Ludlow'n galw am dîm 'cyfan gwbl broffesiynol'

Jayne Ludlow Image copyright PA
Image caption Dywed Jayne Ludlow ei fod yn credu bod carfan broffesiynol yn bosib ymhen wyth i 10 mlynedd

Mae rheolwr Cymru, Jayne Ludlow yn dweud bod llwyddiant diweddar tîm pêl-droed merched wedi newid agweddau yng Nghymru at bêl-droed merched ac mae'n gobeithio y bydd modd sicrhau tîm llawn o chwaraewyr proffesiynol.

Ar ôl colli o 3-0 i Loegr yng Nghasnewydd nos Wener mae'n Cymru'n dibynnu ar ganlyniadau eraill i fynd o'u plaid os am sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ond wedi perfformiadau cadarnhaol yn y gemau rhagbrofol mae 'na alw am gamau i adeiladu ar y llwyddiant yn genedlaethol ac ar lawr gwlad, gan gynnwys mwy o gyllid i sicrhau mwy o chwaraewyr proffesiynol yn y garfan.

Wrth ganmol Merched Cymru wedi'r gêm yn Rodney Parade, dywedodd rheolwr Lloegr, Phil Neville bod "angen i fuddsoddiad barhau i lifo nawr" yng Nghymru.

Mae canlyniad nos Wener yn golygu bod Cymru yn ail yn y tabl a bydd Lloegr yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2019.

Cymru 'wedi deffro'

Yn wahanol i dîm Lloegr, chwaraewyr amatur yw llawer o aelodau carfan Cymru, ond dywedodd Ludlow eu bod wedi llwyddro, serch hynny, i chwarae cystal â'u gwrthwynebwyr mewn nifer o agweddau.

Dywedodd ei bod yn berson "positif" ac yn credu bod modd anelu at gael carfan o chwaraewyr proffesiynol o fewn 10 mlynedd.

"Rwy'n credu y gallai ddigwydd," meddai.

"Mae Cymru wedi deffro i [realiti] tîm pêl-droed merched. Mi wn bod rhai o'r chwaraewyr hŷn yn hapus iawn i weld hynny.

Image copyright PA
Image caption Mae rheolwr Lloegr Phil Neville yn cytuno â Jayne Ludlow fod dyfodol disglair i bêl-droed merched yng Nghymru

"Mae wedi cymryd hirach na fydden nhw wedi dymuno ond mae yn digwydd ac felly mae'n rhaid adeiladu ar hynny nawr.

"Fel gwlad nawr, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn ddigon cryf ar gyfer y dyfodol."

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y bydd dewis "mwy o lawer" o chwaraewyr ar gael ar gyfer rheolwr y tîm cenedlaethol mewn 10 mlynedd.

"Mae gwaith gyda ni i'w wneud fel cymdeithas [bêl-droed] i drefnu llawer iawn mwy o bethau ar gyfer merched ifanc, i sicrhau bod gyda ni chwaraewyr ar y lefel uchaf - a mwy ohonyn nhw," meddai.

"Bydde'n hyfryd gweld o fewn y ddwy neu dair ymgyrch nesaf garfan Cymru sy'n gyfangwbwl broffesiynol. Rwy'n credu y gall hynny ddigwydd, ond ry'ch chi'n sôn am wyth i 10 mlynedd, mwya' tebyg.

"Mae rhaglen gyda ni nawr, mae'n rhaid cael effaith ar blant. Ar hyn o bryd, mae'r nifer sydd yn cael eu heffeithio yn rhy fach, ond fe wnawn ni newid hynny yn y blynyddoedd nesaf."

'Ymhell ar y blaen'

Dywedodd Phil Neville fod Lloegr "ymhell ar y blaen o Gymru ar hyn o bryd" ond bod Jayne Ludlow a'i chwaraewyr wedi "ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf".

"Fe aethon nhw â ni i le nad ydy Lloegr wedi bod o'r blaen, sef i'r gêm olaf un [cyn sicrhau lle yn y rowndiau terfynol]."

Image copyright Getty Images
Image caption Cyn nos Wener roedd Cymru heb ildio gôl yn y gemau rhagbrofol

Ychwanegodd bod chwaraewyr fel Jess Fishlock, Kayleigh Green a Sophie Ingle yn ddigon da i chwarae i fwyafrif timau gorau'r byd, a'i fod wedi dweud wrth Ludlow cyn y gêm "bod angen i'r buddsoddiad barhau i lifo nawr".

Mae cyn gapten tîm merched Cymru a chyn gadeirydd Chwaraeon Cymru, Laura Mc Allister yn cytuno bod angen gwneud mwy i sicrhau fod Cymru'n cystadlu ar yr un telerau â'u gwrthwynebwyr.

"Rydym yn bell, bell i ffwrdd o sefyllfa Lloegr yn nhermau ariannu," meddai. "Mae eu buddsoddiad nhw yn y gêm yn llawer fwy na ni, felly roedd yn debyg i ornest Dafydd a Goliath."

Mae'r sylwebydd Nic Parri hefyd yn dweud bod "cyllid yn allweddol bwysig" os am adeiladau ar lwyddiannau diweddar y tîm cenedlaethol.

"Roedd Cymru neithiwr yn chwarae yn erbyn tîm o chwaraewyr llawn amser bob un," meddai.

Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Yr ymosodwr Natasha Harding yn diolch cefnogwyr Cymru wedi'r golled yn erbyn Lloegr

"Mae Cymru yn gymysgedd - rhai chwaraewyr yn llawn amser a rhai yn gweithio. Rhai yn fyfyrwyr neu yn gweithio mewn swyddfa. 'Oedd Rachel Rowe - cyn iddi hi fynd yn llawn amser - yn swyddog carchar ac yn teithio cannoedd o filltiroed bob wythnos i fynd i ymarfer.

"Mae'n rhaid i hynny newid ond dydi o 'mond yn mynd i newid os oes rhagor o gyllid i gefnogi'r gêm."

Yn ôl Tania Jones - cyn chwaraewr rhyngwladol sy'n hyfforddi merched o bob oed yn ardal Caernarfon - mae 'na lawer o bethau positif wedi deillio o gêm nos Wener.

"Doedd y canlyniad ddim be oedden ni isho ond mae'n mynd i helpu ni fel gwlad, a'r genod ifanc sydd isho chwarae pêl-droed. Mi fyddan nhw wedi gwylio'r gêm neithiwr a meddwl - ella na'i drio fo."