Cymru 0-3 Lloegr

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Uchafbwyntiau: Merched Cymru 0-3 Merched Lloegr

Bydd yn rhaid i dîm merched Gymru ddibynnu ar ganlyniadau eraill er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar ôl colli 3-0 i Loegr yng Nghasnewydd.

Daeth goliau Lloegr i gyd yn yr ail hanner.

Cyn hynny roedd tîm Cymru, y mwyafrif yn chwaraewyr amatur, wedi chwarae 687 o funudau yn yr ymgyrch heb ildio gôl.

Golygai'r canlyniad fod Lloegr yn sicr o'u lle yn y rownd derfynol.

Toni Duggan, Jill Scott a Nikita Parris sgoriodd i Loegr.

Daeth Helen Ward yn agos i Gymru ond fe wnaeth Parris benio trydedd gôl yr ymwelwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth.