Pro 14: Gweilch 17-13 Caeredin

Scott Williams Image copyright Huw Evans agency
Image caption Roedd Scott Williams yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda'r Gweilch wedi iddo adael y Scarlets

Fe wnaeth dau gais gan George North sicrhau buddugoliaeth o 17 i 13 i'r Gweilch yn erbyn Caeredin yn Stadiwm Liberty.

Roedd cryn dipyn o gyffro cyn y gêm gyda North, Scott Williams ac Aled Davies yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf i'r Gweilch y tymor hwn.

Serch hynny, roedd hi'n hanner cyntaf siomedig gyda dim ond dwy gic gosb i'r naill ochr yn gadael y sgôr ar 3-3.

Yn ystod yr ail hanner, fe wnaeth pethau boethi, gyda North yn llwyddo i groesi dwy waith.