Pro 14: Gleision Caerdydd 32-33 Leinster

Rey Lee-Lo yn sgorio i Gleision Caerdydd Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Sgoriodd y canolwr Rey Lee-lo cais gyntaf tymor 2018-19 i'r Gleision yn erbyn Leinster

Roedd hi'n gêm agos rhwng Gleision Caerdydd a Leinster, gyda'r ymwelwyr yn cipio'r fuddugoliaeth agos ym Mharc yr Arfau yn ystod y munudau olaf.

Yn ystod yr hanner cyntaf, roedd cic gosb i Jarrod Evans yn ddechrau da, gyda cheisiau gan Rey Lee-lo a Jason Harries yn rhoi'r Gleision ar y blaen 15-14.

Daliodd yr ymwelwyr eu tir gan gadw'r dorf ar flaen eu seddi, gyda Bryan Byrne a Ross Byrne yn sgorio a throsi.

Bu'r Gleision yn ffodus i gael dau gais cyflym ar ddechrau'r hail hanner, ond tyfu wnaeth momentwm Leinster, gyda Bryan Byrne yn sgorio'r ddau gais olaf i godi'r sgôr o 29-14 a chrafu buddugoliaeth.