Tymor gwael Morgannwg yn parhau yn erbyn Sir Warwick

jeetan patel
Image caption Jeetan Patel oedd bowliwr gorau Sir Warwick ddydd Gwener

Mae tymor tîm criced Morgannwg yn mynd o ddrwg i waeth wrth iddyn nhw golli o fwy na batiad unwaith eto ym Mae Colwyn.

Yn y gêm bencampwriaeth fe gollodd Morgannwg o fatiad a 35 rhediad i Sir Warwick.

Ar y trydydd diwrnod ddydd Gwener aeth yr ymwelwyr ymlaen i gyrraedd cyfanswm o 503 wrth ymateb i sgôr batiad cyntaf Morgannwg o 203.

Ond gyda'r tîm cartref angen mwy na 300 i orfodi Sir Warwick i fatio eto, digon tila oedd y batio eto.

Capten yr ymwelwyr, Jeetan Patel oedd y seren wrth iddo gipio saith wiced yn yr ail fatiad am 83 rhediad, tra mai Ruaidhri Smith oedd prif sgoriwr Morgannwg gyda 52 heb fod allan.

Er gwaetha' partneriaeth o 63 am y wiced olaf, roedd Morgannwg i gyd allan am 265.

Mae Morgannwg ar waelod ail adran Pencampwriaeth y Siroedd, a dim ond un gêm mae'r sir wedi'i hennill drwy'r tymor.

Pynciau Cysylltiedig