Buddsoddiadau ffracio cynghorau yn 'anghyfreithlon'

Safle ffracio Image copyright Getty Images

Gallai cynghorau Cymru fod yn gweithredu'n anghyfreithlon wrth iddyn nhw barhau i fuddsoddi mewn cwmnïau sy'n ymwneud â ffracio, yn ôl adroddiad newydd.

Mae dros £600m wedi ei ddarparu gan gronfeydd pensiwn awdurdodau lleol i gwmnïau sy'n ffracio dramor.

Yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol, mae'r sefyllfa'n gwrthdaro gyda dyletswyddau cyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru'n dweud bod 'na bwyslais mawr ar sicrhau buddsoddiadau cyfrifol.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ar ei safbwynt o beidio â chaniatáu trwyddedau ffracio newydd. Mae 'na foratoriwm ar ffracio yma ers 2015.

Fis Hydref bydd Bae Caerdydd yn cael rheolaeth lwyr dros y broses o drwyddedu gan San Steffan.

'Syfrdanol'

"Ar yr union adeg mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gwahardd ffracio yn yr hir dymor yng Nghymru, mae'r newyddion bod Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol Cymru yn buddsoddi mewn cwmnïau sy'n parhau i ffracio mewn gwledydd eraill ledled y byd yn syfrdanol," meddai Bleddyn Lake, llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear.

"Ni fydd cynghorau'n wynebu ceisiadau ffracio yn eu hardaloedd nhw pan ddaw'r gwaharddiad i rym yng Nghymru, felly ni ddylai'r cynghorau elwa ar ffracio mewn gwledydd eraill.

"Mae angen i ni weld ymrwymiad clir ganddyn nhw i ddod â phob buddsoddiad mewn cwmnïau tanwydd ffosil i ben, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol," ychwanegodd.

Image copyright PA
Image caption Mae gwrthwynebwyr yn dweud bod ffracio'n niweidio'r amgylchedd

Mae adroddiad Cyfeillion y Ddaear, ar y cyd gyda mudiadau Platform a 350.org, yn awgrymu bod cronfeydd pensiwn Cymru yn cefnogi cwmnïau sy'n ffracio yn Yr Ariannin, America, Canada, Awstralia, China ac Oman.

Mae'n honni bod y dechneg ddadleuol - sy'n tyllu am nwy ac olew dan y ddaear - yn dylanwadu ar gwmnïau a llywodraethau rhag buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac yn annog dibyniaeth barhaus ar danwydd ffosil.

Ond mae cefnogwyr ffracio - gan gynnwys Llywodraeth y DU - yn dadlau y gallai'r dechneg helpu sicrhau cyflenwadau trydan y wlad yn y dyfodol a chynnig swyddi a buddsoddiad hefyd.

Lles cymdeithasol

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol eisoes wedi galw ar gynghorau Cymru i ddangos sut maen nhw'n ystyried lleihau'r perygl o newid hinsawdd yn eu strategaethau o fuddsoddi cronfeydd pensiwn.

Wrth siarad ym mis Mawrth, wedi'r newydd bod £1 biliwn o gronfa bensiwn yng Nghymru yn cael ei wario ar gwmnïau tanwydd ffosil, dywedodd Sophie Howe: "O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos sut maen nhw'n ystyried lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn bresennol ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Rydw i am wybod sut maen nhw wedi gwneud hyn a pha gamau sydd wedi eu cymryd, yn arbennig os oedd 'na gais am gyngor ffurfiol a bod strategaeth fuddsoddi wedi'i datblygu a'i gweithredu i'r effeithiau ar yr amgylchedd."

'Annog buddsoddi moesegol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mai "cyfrifoldeb y cronfeydd pensiwn yw penderfyniadau o'r fath", ond bod "llawer o'r cronfeydd yn dirprwyo dewis stoc i gwmnïau buddsoddi arbenigol sy'n cyflawni rôl rheolwr asedau".

"Bydd pob cronfa yng Nghymru yn rhoi ystyriaeth fanwl i Fuddsoddiadau Cyfrifol yn Gymdeithasol ac mae'r cronfeydd i gyd yn aelodau o'r Fforwm Cronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (LAPFF) sydd yn ystyried ac yn cynghori ar faterion hinsawdd a moesegol o ran buddsoddi.

"Mae CLlLC yn annog datblygiad o egwyddorion buddsoddi moesegol. Mae cyfuno'r wyth cronfa yng Nghymru yn cynnig cyfle i rannu arfer da o dan Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru o ran buddsoddi cyfrifol gan gynnwys tanwyddau ffosil.

"Dylai hyn ategu prif swyddogaeth ymddiriedolwr pob cronfa, sef i fuddsoddi er budd dros 300,000 o aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru."

Pynciau Cysylltiedig