'Dim ond hybu lleol all sicrhau dyfodol y Gymraeg'

Spin the wheel yn Gymraeg
Image caption Mae'n nod i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Cynlluniau sy'n hybu'r Gymraeg ar lefel leol, ac nid polisïau wedi eu llunio ym Mae Caerdydd, all sicrhau dyfodol i'r iaith, yn ôl prif weithredwr olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Roedd Meirion Prys Jones yn ymateb i ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos faint o blant sy'n siarad yr iaith ar yr aelwyd.

Mae'r ffigyrau gafodd eu casglu ym mis Ionawr yn dangos gostyngiad mewn rhai ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn draddodiadol yn gadarnleoedd, gan gynnwys Cwm Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd wedi gosod nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, eu bod "yn cytuno gyda Meirion Prys Jones [mai] pobl sy'n newid diwylliant, gyda chymorth y llywodraeth".

Gweithgaredd lawr gwlad

Dywedodd Mr Jones wrth Newyddion 9 bod angen adeiladu ar bolisïau cenedlaethol a deddfwriaeth, ond bod angen "llawer mwy o gynllunio lleol arnon ni i hyrwyddo'r Gymraeg".

Mae datblygu gwasanaethau Cymraeg mewn llefydd "allweddol" o fewn pentrefi a chymunedau wedi profi'n llwyddiannus, meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Meirion Prys Jones yn argymell hybu'r Gymraeg mewn siopau, tafarnau, canolfannau cymunedol a meddygfeydd

"Er enghraifft, mae gynnoch chi siopau lleol, tafarnau, canolfannau cymunedol, llefydd ar gyfer doctoriaid," meddai.

"Be' dwi'n meddwl mae rhaid i chi 'neud ydy ceisio cynllunio sut y gellwch chi gael gwasanaeth Cymraeg yn yr holl elfennau yna.

"Wrth i gymuned ddod at ei gilydd a chyd-gynllunio ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg fe allwch chi sicrhau bod bywyd Cymraeg yn gallu digwydd mewn pentrefi, ond mae hynny'n gofyn am gynllunio a dim ond pobol leol sy'n gallu gwneud hynny.

"Ar lawr gwlad mewn gwirionedd mae'r gweithgaredd yma'n digwydd - dydy o ddim yn digwydd yn Senedd Caerdydd, mae'n digwydd ar lawr gwlad, ac mae'n rhaid cael y neges yna drwyddo nad mater o benderfyniad polisi yw e ond mater o weithredu o fewn cymunedau."

Amrywiaethau mawr

Cafodd yr ystadegau eu casglu fel rhan o'r cyfrifiad ysgol ym mis Ionawr ar sail asesiadau rhieni ynghylch pa mor rhugl yw eu plant a pha mor aml maen nhw'n defnyddio Cymraeg. Dywedodd rhai rhieni wrth Newyddion 9 bod "neb yn yr ysgol" wedi eu holi ynghylch y mater.

Yn ôl y wybodaeth, 21.5% o blant oedd yn siarad yr iaith yn rhugl ar yr aelwyd ym mhentref Y Tymbl, yng Nghwm Gwendraeth, gyda 33.7% yng Ngorslas a 28.8% yn Cross Hands.

Image caption Roedd yr ystadegau ar sail asesiad rhieni yng nghyfrifiad ysgol eleni pa mor rhugl yw eu plant

Yn achos rhai ysgolion Saesneg, doedd dim un o'r disgyblion yn rhugl, ac roedd amrywiaethau mawr hyd yn oed yng Ngwynedd. 97.4% o ddisgyblion Ysgol Bro Tryweryn, ger Bala oedd yn rhugl ar yr aelwyd, ond 6.1% oedd y ffigwr yn achos Ysgol Hirael ym Mangor.

Er bod llawer o ysgolion y de-ddwyrain yn arbennig â dim disgyblion Cymraeg, roedd y ffigwr yn achos rhai o'r ysgolion Cymraeg yn uwch nag yn rhannau o Wynedd ac Ynys Môn. 75% o ddisgyblion Ysgol Iolo Morgannwg ym Mro Morgannwg a 52.6% yn Ysgol Treganna, Caerdydd oedd yn siarad yr iaith yn rhugl ar yr aelwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cytuno gyda Meirion Prys Jones. Pobl sy'n newid diwylliant, gyda chymorth y llywodraeth, ond nid y llywodraeth ar ei phen ei hun.

"Ein rôl ni yw sicrhau bod gan gymunedau yr offerynnau sydd eu hangen arnynt i helpu pobl i ddysgu ac i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg.

"Rydym wedi comisiynu a chyhoeddi ymchwil ar y ffactorau sy'n effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg mewn teuluoedd, a byddwn yn rhoi'r ymchwil hwn ar waith mewn Cynllun Gweithredu ar gyfer trosglwyddo iaith rydym yn gweithio arno ar hyn o bryd.

"Ymhlith pethau eraill, rydym wedi lansio Cymraeg Byd Busnes i gynorthwyo busnesau bach a chanolig ar lawr gwlad i wneud mwy trwy'r Gymraeg a'r cynllun 'Siarad' ar y cyd â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg i hybu siaradwyr rhugl y Gymraeg i gymdeithasu gyda dysgwyr a'u helpu i ddysgu'r iaith."

Straeon perthnasol