Cwpan Carabao: Casnewydd 0 - 3 Oxford United

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Ben Evans/Huw Evans Agency

Mae Casnewydd wedi colli o 0-3 yn erbyn Oxford United ar noson siomedig i'r tîm cartref yn Rodney Parade.

Aeth yr ymwelwyr - sy'n chwarae un adran yn uwch na Chasnewydd - ar y blaen wrth i Mickey Demetriou daro'r bel i rwyd ei hun wedi dau funud o chwarae.

Shandon Baptiste wnaeth ddyblu mantais Oxford, cyn i Fraser Franks arbed yn wych i rwystro'r ymwelwyr rhag ychwanegu trydedd gyda dim ond pum munud ar y cloc.

Cryfhau gwnaeth y tîm cartref wrth i'r gêm fynd yn ei blaen ond doedden nhw'n methu'n glir a thorri drwy amddiffyn cadarn Oxford.

Roedd rhaid i Oxford chwarae gyda deg dyn am y chwarter awr olaf, ar ôl i Jamie Hanson dderbyn cerdyn coch am ei drosedd ar Antoine Semenyo.

Er bod gan Gasnewydd ddyn ychwanegol, llwyddodd Gavin Whyte i sgorio'r drydedd i Oxford wedi 91 munud i goroni'r fuddugoliaeth.