Cwpan Carabao: Abertawe 0 - 1 Crystal Palace

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Abertawe wedi colli gartref i Crystal Palace o 0-1 yn ail rownd Cwpan Carabao.

Roedd pum chwaraewr yn dechrau gêm i Abertawe am y tro cyntaf, wrth i Graham Potter gyflwyno sawl newid i'r tîm a gollodd yn erbyn Bristol ddydd Sadwrn.

Dechreuodd yr Elyrch yn dda, wrth iddynt lwyddo i greu sawl cyfle yn fuan yn y gêm - y gorau yn disgyn i'r chwaraewr canol cae ifanc, Yan Dhanda.

Roedd sawl newid hefyd i dîm Crystal Palace, ond roedd profiad y tîm o'r Uwch Gynghrair yn dechrau dangos yn yr ail hanner wrth iddynt bwyso ar amddiffyn ifanc y tîm cartref.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 70 munud wrth i Alexander Sorloth droi yn gelfydd yn y cwrt cosbi, cyn ergydio'n gadarn heibio Nordfelt.

Er gwaethaf pwyso hwyr gan yr Elyrch, llwyddodd Crystal Palace i ddal ymlaen i'w mantais, gan sicrhau eu lle yn y drydedd rownd.