'Cwymp cofrestriadau TGAU i effeithio ar ganlyniadau'

Bethan Lewis
Gohebydd Addysg BBC Cymru

Cyhoeddwyd
Disgyblion yn sefyll arholiadau

Fe allai newidiadau mawr i nifer y disgyblion sydd wedi sefyll rhai arholiadau TGAU gael effaith ar y canlyniadau dros Gymru gyfan, yn ôl y corff sy'n goruchwylio cymwysterau.

Fe fydd miloedd o bobl ifanc yn casglu eu canlyniadau yn ddiweddarach, ond mae cofrestriadau 13% yn is na llynedd.

Yn ôl Cymwysterau Cymru mae diwygio pellach a newidiadau i'r ffordd mae ysgolion yn cael eu mesur wedi cael effaith ar nifer y disgyblion sydd wedi sefyll rhai pynciau TGAU.

Dywedodd un arbenigwr addysg bod yna "gwymp arwyddocaol iawn" yn nifer y rhai oedd wedi sefyll TGAU flwyddyn yn gynnar.

Llai o gofrestriadau

Llynedd roedd 63,310 o gofrestriadau i ddisgyblion 15 oed ym Mlwyddyn 10, ond eleni roedd 14,285 - gostyngiad o 78%.

"Mae effaith cofrestriadau cynnar wedi bod yn eithaf arwyddocaol," meddai Gareth Evans, sy'n gyfarwyddwr polisi addysg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

"Dim ond yn hwyr llynedd gyflwynodd Kirsty Williams ei pholisi newydd a'n barod ry'ch chi wedi gweld cwymp mawr yn nifer y cofrestriadau cynnar."

Llynedd roedd y nifer gafodd A* i C yr isaf ers 2006, ond yn ôl y rheoleiddiwr roedd y cofrestriadau cynnar yn ffactor pwysig.

Mae gostyngiad o 78% yn nifer y cofrestriadau Blwyddyn 10 yn bennaf gyfrifol am ostyngiad yn y cofrestriadau drwyddi draw.

Eleni mae disgyblion wedi sefyll arholiadau am 15 TGAU newydd am y tro cyntaf, gan gynnwys 6 TGAU gwyddoniaeth newydd.

Yn ôl Cymwysterau Cymru, fe allai newidiadau i gofrestriadau gwyddoniaeth olygu bod canlyniadau'n is ar ôl i'r ysgrifennydd addysg ddweud bod gormod o ysgolion yn cofrestru eu disgyblion ar gyfer BTEC yn hytrach na TGAU.

Mae yna gynnydd mawr yn nifer y disgyblion sydd wedi sefyll y TGAU gwyddoniaeth ac mae Cymwysterau Cymru yn amcangyfrif y byddai rhyw 40% wedi sefyll y BTEC yn y gorffennol.

Graddau gwahanol i Loegr

Graddau A* i G fydd disgyblion Cymru'n parhau i dderbyn, wrth i Loegr ddefnyddio graddau o naw i lawr at un.

Yn ôl Mr Evans mae'n amhosib cymharu perfformiad y ddwy wlad bellach.

"Mae'n anodd iawn, rwy'n meddwl, i rieni a rheini sydd ddim â diddordeb manwl mewn cymwysterau o ran be mae rhain yn golygu, ac os oes modd cymharu bellach", meddai.

"Fe fydden i'n dadlau nad yw cymharu TGAU Cymru a Lloegr yn bosib bellach ac rwy'n meddwl y byddai'n anghywir i ni ddod i gasgliadau pendant ynglŷn â pherfformiad yn gwella neu waethygu."

Serch hynny, mae Cymwysterau Cymru yn dweud, i'r unigolyn, bod TGAU yr un mor anodd ac yn cyfrif am yr un faint yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.