Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google

Cafodd dynes ei lladd a thri o bobl eu hanafu wedi i ddau gar daro'n erbyn ei gilydd ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Ford Fusion glas a Ford Focus gwyn tua 15:30 ar yr A4080 ger Brynsiencyn.

Bu farw'r ddynes oedd yn gyrru'r Fusion yn y fan a'r lle, ac fe gafodd plentyn 11 oed oedd yn y car ei chludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau.

Cafodd gyrrwr y Focus ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae ei anafiadau yn ddifrifol ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.

Cafodd dynes oedd yn teithio yn y car fân anafiadau.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi gorfod torri dau o bobl yn rhydd o'u cerbyd.