Cynghrair Cenedlaethol: Eastleigh 1-3 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam yn parhau ar frig y Cynghrair Cenedlaethol ar ôl curo Eastleigh o dair gôl i un i ffwrdd yn Ten Acres.
Daeth gôl agoriadol y Dreigiau o droed Manny Smith wedi naw munud o chwarae.
Amddiffynnwr Eastleigh, Alex Wynter oedd yn gyfrifol am ail gôl Wrecsam, yn ei phenio i'w rwyd ei hun o groesiad gan Luke Summerfield.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Eastleigh yn yr ail hanner wrth i Andrew Boyce gael ei anfon o'r cae â cherdyn coch.
Rhoddodd Paul McCallum lygedyn o obaith i'r tîm cartref gyda gôl yn y 68fed munud, ond cafodd buddugoliaeth Wrecsam ei selio gan drydedd gôl, y tro hwn o droed Mike Fondop.
Wedi mwynhau sylwebu ar fuddugoliaeth Wrecsam o 3-1 yn Eastleigh i aros ar y brig. Mae Sam Ricketts newydd ddweud mai’r 20 munud cynta y prynhawn yma ydy’r cyfnod gorau o chwarae mae o wedi ei weld gan ei dîm y tymor yma
— Gareth John Blainey (@GBlainey) August 18, 2018
Straeon perthnasol
- 11 Awst 2015
- 7 Awst 2018