Gyrrwr ag anafiadau difrifol ar ôl taro coeden ar yr A470
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Tal-y-cafn a Maenan
Gafodd gyrrwr anafiadau difrifiol wedi i gar daro'n erbyn coeden yn Sir Conwy.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 tua milltir i'r de o Dal-y-cafn i gyfeiriad pentref Maenan.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 19:30 nos Wener.
Car Peugeot du oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad, a dim ond y gyrrwr oedd yn y car.
Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth i ffonio 101