Morgannwg allan o gystadleuaeth y T20
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Mae cricedwyr Morgannwg allan o gystadleuaeth y T20 ar ôl colli i Surrey yng Ngerddi Soffia.
Ar ôl galw'n gywir a dewis batio, fe osododd y tîm cartref darged o 184 o rediadau.
Ond daeth y chwarae i ben oherwydd y glaw gyda'r sgôr y gwrthwynebwyr yn 60 heb golli wiced a Surrey oedd yn fuddugol o 24 o rediadau gan y dull Duckworth Lewis.
Ond fe fyddai buddugoliaeth i Forgannwg ddim wedi bod yn ddigon iddyn nhw fod ymhlith yr wyth olaf wedi i Sussex guro Middlesex i fachu'r lle olaf yng ngrŵp y de.
Dywedodd capten Morganwg Colin Ingram fod y canlyniad yn "rhwystredig", a'i fod wedi meddwl y byddai eu sgôr wedi bod yn ddigon i ennill "ond doedd e ddim yn ddelfrydol pan ddechreuodd hi fwrw eto."