Tredegar Newydd: Tri yn Llys y Goron
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio dyn yn Nhredegar Newydd.
Cafwyd hyd i gorff David Gaut, 54 oed, yn Long Row yn ardal Tref Elliot ar 4 Awst. Yn 1985 cafodd Mr Gaut ddedfryd o garchar am oes am lofruddio bachgen bach 17 mis oed yng Nghaerffili.
Cafodd ei rhyddhau ar barôl ym mis Tachwedd y llynedd.
Yn y llys ddydd Llun, ymddangosodd Darren Evesham, 47 oed a Ieuan Hartley, 23 oed, ac fe ymddangosodd David Osbourne, 51 oed, ar gysylltiad fideo.
Clywodd y llys bod ymchwiliadau yn parhau ac y byddai gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar 8 Tachwedd.
Cafodd dyddiad ei bennu dros dro ar gyfer dechrau'r achos, a hynny ar 16 Ionawr 2019 yn Llys y Goron Casnewydd.
Straeon perthnasol
- 9 Awst 2018
- 8 Awst 2018
- 6 Awst 2018