Arestio dyn wedi digwyddiad mewn tŷ bwyta

Hickory's Smokehouse Image copyright Google
Image caption Cafodd y dyn 25 oed ei arestio wedi "digwyddiad difrifol" yn nhŷ bwyta Hickory's Smokehouse yn Llandrillo

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i holi dyn 25 oed wedi 'digwyddiad difrifol' mewn tŷ bwyta yn Sir Conwy ddydd Gwener.

Dywed plismyn nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn Hickory's Smokehouse yn Llandrillo-yn-Rhos.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.