Lluniau gorau'r wythnos o Eisteddfod Caerdydd 2018

Ar ddiwedd wythnos unigryw a chofiadwy ym Mae Caerdydd, dyma gyfle i edrych nôl ar Eisteddfod Genedlaethol 2018 drwy gasgliad o luniau gorau'r wythnos.

Ymwelwyr o China, Li Dan Fu a Yu Jie Fu, yn mwynhau eu Eisteddfod cyntaf Image copyright Sioned Birchall
Image caption Ymwelwyr o China, Li Dan Fu a Yu Jie Fu, yn mwynhau eu Eisteddfod gyntaf
Huw Stephens a Jason Mohammad
Image caption Huw Stephens a Jason Mohammad, y ddau o Gaerdydd, yn rhannu jôc ar y Maes
Gorsedd y Beirdd Image copyright Sioned Birchall
Image caption Dydd Llun cafodd Bae Caerdydd brofi gogoniant Gorsedd y Beirdd
Ashok Ahir Image copyright Sioned Birchall
Image caption Cyfle prin i Ashok Ahir, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018, roi ei draed i fyny
Catrin Dafydd Image copyright Sioned Birchall
Image caption Catrin Dafydd, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol 2018
Eisteddfod
Image caption Efeilliaid, Srivik a Nivik (4 oed) o Gaerdydd yn mwynhau hufen iâ gyda Mam a Dad
Côr Morgraig yn ymarfer funud olaf cyn mynd ar y llwyfan
Image caption Côr Morgraig yn ymarfer funud olaf cyn mynd ar y llwyfan
Adwaith
Image caption Y band Adwaith o Gaerfyrddin yn canu set acwstig yng Nghaffi Maes B
Y dorf
Image caption Anhygoel! Y dorf i groesawu'r beiciwr Geraint Thomas wrth y Senedd ddydd Iau
Geraint Thomas
Image caption Geraint Thomas yn cyfarch y dorf ar risiau'r Senedd
Maes B a'r Orsedd Image copyright Sioned Birchall
Image caption Oherwydd y glaw fe gynhaliwyd seremoni'r Orsedd ym Maes B ddydd Gwener
Jamie Roberts Image copyright Sioned Birchall
Image caption "Braf bod nôl ym Maes B, profiadau ffantastig yn tyfu lan yn y maes ieuenctid" meddai'r chwaraewr rygbi Jamie Roberts, oedd yn cael ei urddo ddydd Gwener
Y ddawns flodau Image copyright Sioned Birchall
Image caption Ai dyma'r tro cyntaf i'r ddawns flodau gael ei pherfformio ym Maes B?
Gruffudd Eifion Owen Image copyright Sioned Birchall
Image caption Bardd y Gadair, Gruffudd Eifion Owen, yn cofleidio Osian Rhys Jones, enillydd y Gadair llynedd
Gwerin
Image caption 'Jamio' traddodiadol yn y Tŷ Gwerin
Eisteddfod
Image caption Dafydd a Llew yn mwynhau'r Steddfod! Diolch i Gaerdydd am y croeso - hwyl tan y flwyddyn nesaf

Hefyd o ddiddordeb:

  • Mwy o'r Eisteddfod, yn cynnwys y canlyniadau ac uchafbwyntiau'r cystadlu, ar ein gwefan arbennig