Pobl wedi 'camddeall' sylwadau yn ôl Eifion Lloyd Jones

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Eifion Lloyd Jones: 'Dim lle i ymddiheuro'

Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod wedi dweud fod ei sylwadau ynglŷn â phobl o Uganda wedi eu "camddeall yn llwyr".

Cafodd Mr Lloyd Jones ei feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi iddo gyflwyno Iori Roberts, llywydd Cymru a'r Byd, i'r gynulleidfa a rhestru'r llefydd amrywiol y bu'n gweithio.

Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd fod Mr Roberts wedi treulio cyfnodau "yn gweithio'n Uganda ac Ysgol Emrys ab Iwan, Abergele - a dwi ddim yn siŵr lle roedd yr anwariaid gwaethaf".

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Iau, dywedodd Eifion Lloyd Jones fod ei sylwadau yn rai "chwareus" ac mai ef fyddai'r "olaf i ddilorni unrhyw leiafrifoedd".

Fe wnaeth ddatganiad personol nos Iau yn dweud: "Ond os oes unrhywun wedi cam-ddehongli fy ngeiriau a chael loes o hynny, mae'n wirioneddol ddrwg gen i."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Sylwadau Llywydd Llys yr Eisteddfod

Dywedodd nad oedd y sylwadau'n ddim i'w gwneud â hiliaeth ac mai ef sydd yn gwybod beth oedd yn ei feddwl.

"Dydw i ddim yn derbyn o gwbl fod unrhyw awgrym yn yr hyn ddwedes i oedd yn hiliol," meddai.

Ni wnaeth yr Eisteddfod sylw ar y mater.

Ond mae Mr Lloyd Jones wedi cael ei feirniadu'n hallt ar Twitter, gan gynnwys galwad ar iddo fynd.

Ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru ddydd Iau, dywedodd Marc Phillips (sef @bertwyn ac sy'n aelod o Lys yr Eisteddfod):

"Does dim byd amwys o gwbl [am y geiriau]... maen nhw'n eiriau hiliol.

"Y peth urddasol i Eifion wneud nawr yw i ymddiswyddo, ac fe ddyle wneud hynny."

'Jôc'

Yn y gynhadledd fodd bynnag, dywedodd Mr Lloyd Jones mai "jôc" oedd y galwadau arno i gamu o'r neilltu.

"Os ydyn nhw'n dehongli'r peth fel hiliaeth, maen nhw'n gwneud camgymeriad dybryd, a'u camgymeriad nhw ydi hynny," meddai.

"Doedd hynny ddim yn fwriad o fath yn y byd."

Ychwanegodd: ""Fedrai ddeall bod pawb ddim wedi deall ysbryd yr hyn oedd gen i i'w ddweud... [ond mae] pobl wedi rhoi llawer iawn mwy o ystyr ynddo fo nag yr oedd."

Datganiad

Mewn datganiad personol gafodd ei ryddhau gan yr Eisteddfod nos Iau, ychwanegodd Mr Jones.

"Rwy'n ei chael hi'n anodd deall fod rhai pobl wedi methu deall cyd-destun ac ysbryd fy ngeiriau yn seremoni Cymru a'r Byd wrth gyfeirio at Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele, at Uganda ac at Ogledd Lloegr.

"Byddwn yr ola' i ddilorni unrhyw leiafrifoedd yng Nghymru a gweddill y byd. Mae gen i'r parch o'r mwya' at leiafrifoedd sy'n sefyll dros eu hawliau mewn unrhyw sefyllfa ac ar unrhyw gyfandir.

"Ond os oes unrhywun wedi cam-ddehongli fy ngeiriau a chael loes o hynny, mae'n wirioneddol ddrwg gen i."

Fe fydd Llys yr Eisteddfod yn cyfarfod ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig