T20: Morgannwg yn curo Essex o chwe rhediad

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Llwyddodd Capten Morgannwg, Coling Ingram sgorio 89 ym muddugoliaeth y tîm cartref.

Mae Morgannwg wedi ennill o chwe rhediad yn erbyn Essex ym mhencampwriaeth y T20 Vitality Blast yn Stadiwm Swalec nos Fawrth.

Llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd 197- 8, gyda'r capten Colin Ingram yn serennu gyda chyfanswm o 89 rhediad.

Mewn diweddglo cyffroes, dim ond 192 o rediadau lwyddodd Essex am chwe wiced.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Morgannwg bellach yn neidio i'r trydydd safle yn y tabl, un pwynt o'r brig.