Apêl am wybodaeth wedi gwrthdrawiad ym Metws-y-coed

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion neu unrhyw wybodaeth am wrthdrawiad "difrifol" ym Metws-y-coed ddydd Llun.

Dywed yr heddlu i gerddwr ei daro gan gar, am tua 17:40 ar yr A5 ger Gwesty'r Swallow Falls.

Cafodd y dyn ei gludo i ysbyty Stoke, lle mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r Heddlu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod W110671.