Gwrthdrawiad Caerdydd: Cyhoeddi enwau dau fu farw

Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enwau'r ddau ddyn arall oedd ymhlith y tri cafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ar yr A4232 yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Y ddau yw Dayne Thomas, 19 oed o Gwmbrân, ac Alex Davidson, 19 oed o Aberdâr.

Cafodd y ddau, ynghyd â Robert Bambridge, 34 oed o Bont-y-pŵl, eu lladd mewn gwrthdrawiad gyda lori yn ystod oriau mân bore Sul 5 Awst.

Roedd y tri yn teithio mewn Ford Focus llwyd a fu mewn gwthdrawiad gyda lori nwyddau trwm ar lôn ddeheuol Ffordd y De.

Ni chafodd gyrrwr y lori unrhyw anafiadau difrifol, ac nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Alex Davidson yn "dad anhygoel" meddai ei deulu

Mewn teyrnged iddo dywedodd teulu Mr Davidson ei fod yn "berson hapus, cariadus ac yn dad anhygoel".

Ddydd Mawrth fe wnaeth teulu Mr Thomas ryddhau teyrnged yn ei ddisgrifio fel dyn oedd yn hoff o gellwair.

"Roedd pobl yn ei adnabod oherwydd ei hiwmor, roedd yn gymeriad a hanner ac yn llawn egni."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd teulu Dayne Thomas ei fod yn "gymeriad a hanner"