Galw am fwy o fuddsoddiad mewn technoleg yn y Gymraeg

Cyhoeddwyd

Gallai Llywodraeth Cymru orfod buddsoddi llawer mwy mewn technoleg iaith yn dilyn Brexit, yn ôl Aelod Seneddol Ewropeaidd o Gymru.

Dywedodd Jill Evans fod y maes yn un cynyddol bwysig a bod angen sicrhau nad oedd ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg yn cael eu gadael ar ôl wrth i dechnoleg ddatblygu.

Mae ASE Plaid Cymru'n arwain ymdrechion ar hyn o bryd i gael yr Undeb Ewropeaidd i gydnabod yr angen i weithredu yn y maes, ac ariannu prosiectau i sicrhau tegwch i ieithoedd llai.

Ond dywedodd y gallai'r baich hwnnw ddisgyn ar Fae Caerdydd os nad yw Cymru'n gallu elwa o brosiectau ar ôl gadael yr UE.

Yn y gorffennol mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi dweud bod y llywodraeth "yn buddsoddi lot mwy o arian yn yr iaith Gymraeg", gan ychwanegu bod grantiau i gynnal prosiectau technoleg iaith wedi arwain at "arloesi".

Mewn trafodaeth ar faes yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, dywedodd Ms Evans fod gweithio yn Senedd Ewrop yn golygu ei bod "wedi gweld yr hyn sy'n bosib ei gyflawni" gyda thechnoleg pan mae'n dod at ddefnyddio ieithoedd gwahanol.

Ond gyda chymaint o adnoddau a rhaglenni digidol, gan gynnwys rhaglenni adnabod lleferydd fel Siri ac Alexa, yn defnyddio'r Saesneg, mae ieithoedd eraill mewn perygl o gael eu gadael ar ôl.

"Dydyn ni ddim jyst yn siarad am ieithoedd lleiafrifol yn fan hyn," meddai.

"Mae'r ymchwil yn dangos bod 21 iaith Ewropeaidd mewn perygl o ddiflannu yn y byd digidol."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Lleisiwr, prosiect gan Ganolfan Bedwyr, yn un prosiect sydd eisoes wedi cael grant gan Lywodraeth Cymru

Mae Ms Evans yn aelod o bwyllgor sydd wedi llunio adroddiad ar y pwnc fydd yn cael ei drafod yn Senedd Ewrop fis nesaf.

Ymhlith y pryderon sy'n cael eu codi gan yr ASEau mae'r ffaith bod y farchnad technolegau iaith "yn cael ei ddominyddu" gan gwmnïau o'r UDA ac Asia "sydd ddim yn cyfeirio at anghenion penodol Ewrop amlieithog".

Mae'r adroddiad yn galw am sicrhau bod "amlieithedd a thechnoleg iaith" yn dod yn rhan o bortffolio un o Gomisiynwyr Ewrop.

Maen nhw hefyd am weld yr UE yn sefydlu rhaglen ariannu "ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi ym maes technolegau iaith", a "datblygu deunyddiau addysgu digidol mewn ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol".

'Dim digon o fuddsoddi'

Hyd yn oed petai'r buddsoddiad yn cael ei gymeradwyo gan yr UE, fodd bynnag, mae'n bosib na fydd Cymru'n elwa unwaith y bydd y DU yn gadael.

"Os 'dyn ni'n tynnu yn ôl o brosiectau Ewropeaidd, bydd angen i [Lywodraeth Cymru] wneud llawer, llawer mwy," meddai Ms Evans.

Yn rhan o'r drafodaeth hefyd oedd Delyth Prys o Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, sydd wedi bod yn gweithio ar brosiectau i ddatblygu technolegau iaith yn y Gymraeg.

Er bod cwmnïau fel Google a Microsoft yn darparu gwasanaethau a rhaglenni cyfieithu yn y Gymraeg er enghraifft, dywedodd nad oedd modd "trystio'n llwyr" yn y sefydliadau hynny i'w cynnal a bod angen cefnogi datblygiadau tebyg yn agosach at adref.

"Allwn ni ddim rhoi ein wyau i gyd yn y fasged Americanaidd," meddai.