Cynghrair Europa: Y Seintiau Newydd 1 - 1 Lincoln Red Imps

TNS' Jon Routledge in action against Lincoln Red Imps Image copyright PA

Mae'r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Europa wedi buddugoliaeth ar gyfanswm goliau yn erbyn Lincoln Red Imps o Gibraltar.

Fe aeth y Seintiau mewn i'r ail gymal gyda mantais o 2-1 ar ôl y fuddugoliaeth yn y cymal cartref wythnos yn ôl.

Y tîm o Gibraltar dechreuodd orau gan orfodi Harrison, golwr y Seintiau, i wneud sawl arbediad yn gynnar yn y gêm.

Fe aeth Lincoln Red Imps ar y blaen wedi 40 munud yn dilyn cyfnod o bwysau cyson - y gôl gan Juan Manuel Montesinos Romero yn rhoi'r tîm cartref ar y blaen.

Gwyddai'r Seintiau y byddai un gôl yn ddigon i newid y gêm, ond y tîm cartref oedd yn parhau i bwyso yn gynnar yn yr ail hanner gan orfodi Harrison i arbed yn gampus unwaith eto.

Dean Ebbe gafodd y gôl holl bwysig i bencampwyr Cymru gyda dim ond wyth munud yn weddill.

Mae'r Seintiau Newydd nawr yn mynd yn ei blaen i wynebu Midtjylland o Ddenmarc yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Europa a bydd eu cymal cartref yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol