Arestio dau wedi digwyddiad yn Heol Dŵr, Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi arestio dyn a dynes yn dilyn digwyddiad yn Heol Dŵr yng Nghaerfyrddin nos Fercher.
Roedd nifer o'r strydoedd yng nghanol Caerfyrddin wedi cau yn ystod y digwyddiad, a chafodd 30 o dai cyfagos eu gwagio.
Cafodd dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf yn ei feddiant a chafodd dynes 35 oed ei harestio ar amheuaeth o geisio cynnau tân yn fwriadol, gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Cafodd y ddynes ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad, ond erbyn hyn mae hi a'r dyn yn y ddalfa.
Yn wreiddiol, cafodd yr heddlu eu galw i dafarn y Blue Boar yn Heol Dŵr yn dilyn adroddiad o ddyn â dryll toc wedi 17:00 brynhawn Mercher, cyn mynd i chwilio am y dyn a'i ganfod mewn fflat ar y stryd.
Pan geisiodd swyddogion gysylltu gyda'r dyn, oedd yn y fflat gyda dynes, cafodd yr heddlu eu bygwth a'r fynedfa ei flocio.
Cafodd heddlu arfog eu hanfon i'r ardal, ynghyd â'r gwasanaeth tân a'r ambiwlans.
Digwyddiad arall yn ymmneud a heddlu arfog yng nghanol Caerfyrddin. Heol Dwr a Heol y Gwyddau ar gau pic.twitter.com/cvEqIrW5Hw
— Aled Scourfield (@aledscourfield) August 1, 2018
Daeth cadarnhad gan yr heddlu am 21:20 bod y digwyddiad drosodd ac nad oedd unrhyw un wedi cael niwed.
Diolchodd y llu i'r cyhoedd ac asiantaethau eraill am eu cefnogaeth a'u gwaith i ddod a'r digwyddiad i ben yn ddiogel.
Mae'r dryll bellach ym meddiant yr heddlu ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i lygad dystion ac unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- 2 Awst 2018
- 1 Awst 2018