Arestio ail ddyn yn dilyn llofruddiaeth yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Roedd Malaciah Thomas yn byw yn ardal Trebiwt
Mae ail ddyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Malaciah Thomas.
Cafodd dyn 29 oed o Gaerdydd ei arestio ym Maidstone gan Heddlu Caint ar ran Heddlu De Cymru.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau o ymosodiad difrifol mewn gardd eiddo ar Ffordd Corporation yn ardal Grangetown ychydig cyn 02:00 fore Llun.
Fe ddaethon nhw o hyd i Mr Thomas, 20 oed o Dre-biwt, wedi cael ei drywanu sawl gwaith. Bu farw yn y fan a'r lle.
Ddydd Mercher cafodd dyn 19 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae teulu Mr Thomas yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf, ac maen nhw'n parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu'n parhau i apelio ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Straeon perthnasol
- 25 Gorffennaf 2018
- 24 Gorffennaf 2018
- 23 Gorffennaf 2018