Dim addewid gan Theresa May ar gynnal arian wedi Brexit

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Theresa May yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fore Iau

Mae'r prif weinidog Theresa May wedi gwrthod addo na fydd Cymru'n colli unrhyw arian wedi Brexit o'i gymharu â beth maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru yn y Sioe Fawr, dywedodd Mrs May y byddai ei llywodraeth yn parhau i gynnal yr un lefel o gyllid tuag at amaeth yng Nghymru - tua £300m y flwyddyn - nes 2022.

Y tu hwnt i hynny, yr unig beth a ddywedodd oedd y byddai'n "sicrhau bod gennym ni system sydd yn gweithio er budd ffermwyr ar draws y DU".

Ychwanegodd fod gweinidogion yn San Steffan yn gwneud paratoadau "synhwyrol" ar gyfer Brexit heb gytundeb, wrth weithio ar yr un pryd ar "gytundeb da" gyda'r UE.

Ond mae rheolwr gyfarwyddwr Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud y bydd yn pwysleisio y byddai Brexit heb gytundeb yn arwain at "ddinistrio cefn gwlad Cymru".

'Paratoadau pragmatig'

Mae ffigyrau gan Lywodraeth y DU wedi awgrymu y gallai economi Cymru gael ei daro 9.5% dros 15 mlynedd pe bai'r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, ac yn symud at ddefnyddio rheolau Sefydliad Masnach y Byd.

Pan ofynnwyd iddi a fyddai'n barod i gymryd risg o'r fath gydag economi Cymru, dywedodd y prif weinidog: "Rydyn ni eisiau cytundeb da ar gyfer ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol a dyna pam 'dyn ni wedi cyhoeddi papur gwyn ar sail cytundeb Chequers.

"Mae hwnnw'n manylu ar y cyfleoedd sydd gyda ni i barhau i fasnachu gyda'r UE yn y dyfodol a gwireddu dymuniadau pobl.

Disgrifiad o’r llun,
Theresa May yn cyrraedd y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Iau

"Fe fyddwn ni'n paratoi ar gyfer dim cytundeb achos mae'n synhwyrol, ymarferol i wneud y paratoadau pragmatig yna.

"Ond rydyn ni'n gweithio fel llywodraeth i gael cytundeb da yn seiliedig ar gytundeb Chequers, fyddai fel dwi wedi clywed heddiw yn beth da i ffermwyr Cymru."

Ychwanegodd bod ei llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o gyllid i'r diwydiant amaeth ag sy'n cael ei ddarparu gan yr UE am y pedair blynedd nesaf.

Ond dywedodd: "Beth sy'n bwysig yw y byddwn ni allan o'r UE ac fe fyddwn ni'n gallu rhoi trefniadau yn eu lle sydd o fudd i ni a'n cynhyrchwyr, ac sydd ddim yn rhan o'r Polisi Amaeth Cyffredin," meddai.

'Ffermwyr dan bwysau'

Yn ystod ei hymweliad â Llanelwedd mae'r prif weinidog yn cymryd rhan mewn sesiwn ford gron gyda ffermwyr a sefydliadau, gan gynnwys Cymdeithas y Sioe Frenhinol, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a'r CLA.

Mae hi hefyd yn cyfarfod gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru, ymweld â'r Neuadd Fwyd, ynghyd â chyflwyno mesurau o'r Cynllun Amgylcheddol 25 Mlynedd a chamau i gyflwyno'r Bil yr Amgylchedd cyntaf ers 20 mlynedd.

Dywedodd ei bod yn awyddus i glywed barn ffermwyr Cymru wrth fwrw ati i lunio polisi newydd fydd yn disodli Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) yr UE, sy'n gwobrwyo cymorthdaliadau ar sail faint o dir sy'n cael ei ffermio.

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, na dderbyniodd unrhyw eglurder am ariannu'r sector amaeth yn y dyfodol wedi ei chyfarfod gyda Michael Gove, Ysgrifennydd Amgylcheddol Llywodraeth y DU, ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Lesley Griffiths AC nad yw wedi derbyn mwy o eglurder am arian i ffermwyr Cymru yn y dyfodol

Mae Alan Davies, rheolwr gyfarwyddwr FUW wedi dweud ei fod am bwysleisio i'r Prif Weinidog fod "angen gwarantu'n gyflym faint o arian fydd Cymru'n derbyn".

Dywedodd y byddai Brexit heb gytundeb yn mynd i "roi ffermwyr dan bwysau aruthrol" ac y byddai'n arwain at "ddinistr cefn gwlad Cymru".

Mae llywydd NFU Cymru, John Davies, hefyd wedi dweud ei fod yntau am bwysleisio bod angen i'r llywodraeth gyd-weithio gyda Chomisiwn Ewrop er mwyn sicrhau cytundeb fasnach.

Dywedodd Mr Davies: "Mae angen sicrwydd ar ffermwyr ar frys fod eu marchnad allforio bwysicaf yn aros ar agor."