Cyhoeddi enw dyn fu farw wedi gwrthdrawiad ar yr M4

Simon Jones Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Yn ôl y teulu roedd Mr Jones yn ddyn "clên, addfwyn a chariadus"

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr M4 ddydd Llun.

Bu farw Simon Jones, 23 o Lanelli, yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng cyffordd 47 Penllergaer a chyffordd 48 Hendy tua'r gorllewin am tua 15:00.

Dywedodd teulu Mr Jones ei fod unigolyn "clên, addfwyn a chariadus" a oedd yn byw ei fywyd "i'r eithaf", a'u bod nhw wedi cael eu llorio gan y newyddion.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101, a dyfynnu'r cyfeirnod 1800254442.

Pynciau Cysylltiedig