Gorau Cymro, Cymro oddi cartref?

Image copyright Leigh Jones

Wedi ei fagu yn Sir y Fflint a gadael Cymru 10 mlynedd yn ôl roedd Cymreictod i Leigh Jones yn rhywbeth hen ffasiwn, bregus, nad oedd eisiau cymryd rhan ynddo. Ond bellach yn gweithio i label recordio yn Llundain mae ei hunaniaeth Gymreig yn bwysicach iddo nag erioed.

Mae'r gŵr o Dreffynnon wedi dechrau podlediad o'r enw Clyw Cariad Yw i rannu persbectif Cymry alltud am Gymreictod.

Mae'n egluro sut digwyddodd y trobwynt yn ei Gymreictod a pham ei fod yn credu bod angen i'r diwylliant Cymraeg edrych tuag allan a bod yn ddigon hyderus i feirniadu ei hun.


Dan fygythiad

Dafydd Iwan, paent gwyrdd, rygbi, Max Boyce, Stereophonics, Eisteddfodau - dyma oedd terfyn fy nealltwriaeth i o Gymru wrth dyfu fyny yn nyddiau Cool Cymru. Ac i fod yn hollol onest, fel 'na y bu fy mherthynas â Chymru tan yn gymharol diweddar.

Er i fi gael fy magu trwy'r Gymraeg, does gen i ddim enw Gymraeg, nag acen Gymraeg chwaith pan dwi'n siarad Saesneg; felly mae fy hunaniaeth Gymraeg wedi bod yn rhywbeth i fi frwydro i'w ddeall ers gadael Cymru.

Ond trwy nifer o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd diweddar fe wnes i ddarganfod bod fy hunaniaeth Gymraeg i'n gryfach nag erioed er gwaetha'r ffaith i fi fyw i'r dwyrain o Glawdd Offa am ran fwya'r degawd diwethaf.

Y digwyddiad cyntaf yn neffro'r hunaniaeth hon oedd ailryddhau'r albwm Mwng gan y Super Furry Animals ar y label Saesneg Domino yn 2015.

Dyma fand o'n i'n caru wrth tyfu i fyny, ond bu i'r gwleidyddiaeth a ddaeth efo'r albwm yma saethu dros fy mhen pan y'i rhyddhawyd yn 2000, pan oeddwn i'n unarddeg.

Ers y pryd 'ny, rydw i wedi dod i ddeall mai rhan fawr o'r hunaniaeth Gymraeg yw'r ffaith ei bod hi wastad o dan fygythiad.

Tyfais i fyny'n meddwl bod Cymreictod yn fregus ac yn sanctaidd. Efallai doedd gen i prin diddordeb mewn materion cyfoes Cymraeg ers i fi symud i Loegr oherwydd fy mod i'n poeni fod cenedlaetholdeb y 60au yma o hyd.

Troi'r byd Cymreig ar ei ben

Image caption Fe wnaeth ailryddhau albwm Mwng y Super Furry Animals yn 2015 achosi "daeargryn gwefreiddiol" yn ymwybyddiaeth Leigh o'i hunaniaeth.

Roedd darllen am ryddhad gwreiddiol Mwng yn agoriad llygaid i fi. Y peth amlycaf i fi oedd y ffaith bod y Furries wedi gwrthod teithio yng Nghymru i hyrwyddo'r albwm gan bod nhw ddim eisiau i'r dorf cyfan troi i fyny wedi'u gwisgo fel cennin Pedr. Fe drodd y datganiad yma fy myd Cymreig ar ei ben.

Roedd fy hunaniaeth Gymraeg i wedi bod o dan glo - wedi'i ddiogeli rhag dylanwad allanol - efallai oherwydd ei bod hi'n fregus. Fe newidiodd SFA hynny.

Wrth sylwi bod hi'n bosib bod yn feirniadol o Gymru heb i hwnna fod o reidrwydd yn negyddol, fe deimlais i ddaeargryn gwefreiddiol tu fewn i'n ymwybyddiaeth i.

Dydw i ddim yn meddwl am eiliad fy mod i'n camu ar dir newydd trwy "ddarganfod" hyn ond fe fuodd hwn yn gam mawr i fi'n bersonol wrth ceisio deall hunaniaeth fy hun fel rhywun sy'n byw yn un o brif ddinasoedd y byd ac yn aelod estron o gymuned lleiafrifol.

Lle fuodd Cymru'n wlad fach gyda'r angen i amddiffyn ei diwylliant rhag dylanwad allanol, yn awr fe welais i Gymru fel cenedl â hanes a chelfyddyd gyfoethog a byw a fydd yn goroesi dim ond ar yr amod ein bod ni'n edrych tu allan i'n ffiniau ac yn rhannu efo, a dysgu gan, gymuned mwy eang y byd.

Rydyn ni i gyd erbyn heddiw yn byw mewn byd wedi'w globaleiddio. Yn hytrach na'i frwydro, fe ddylsen ni cymryd mantais o'r ffaith hynny a thyfu a ffynnu fel gwlad.

Yn Llundain dwi'n gweld pobl o wahanol ddiwylliannau yn mynegi eu hunaniaeth nhw mor hyderus ond 'dyw hynny ddim yn rhywbeth chi'n weld mewn llawer o Gymry. Pam? Mae 'na lot o Gymry Cymraeg yma, ond mae'r cymdeithasu i gyd yn digwydd allan o olwg pobl. Mae'r tueddiad Cymraeg hynny o gloi ein hunain i ffwrdd yn digwydd yma hefyd.

Mae canolfan Cymry Llundain yn adnodd hynod o bwysig i bobl Cymraeg ond mae'n cuddio popeth Cymraeg o fewn y ganolfan yma. Mae lot o bobl sy'n byw yn Llundain ddim yn gwybod am Ganolfan Cymry Llundain.

Image caption Mae Canolfan Cymry Llundain ar Gray's Inn Road ond faint o bobl Llundain sy'n gwybod amdani?

Ond dwi'n meddwl fod pethau'n newid - mae na genhedlaeth ieuengach nawr, y millenials, sydd wedi tyfu fyny efo'r rhyngrwyd ac sy'n gysylltiedig efo gweddill y byd a dwi'n meddwl bod yr hyder i fynegi ein hunain a'n hunaniaeth yn dod yn ôl.

Cyn i fi sylweddoli ein bod ni'n gallu bod yn feirniadol o'n hunain dwi'n meddwl 'o'n i bach yn bryderus i gymryd rhan mewn diwylliant Cymraeg achos mae 'na lot o bethau sy'n eitha' hen ffasiwn a cheesy ac 'o'n i ddim eisiau cymryd rhan yn yr ochr hynny o bethau. Ond do'n i ddim eisiau bod yn feirniadol chwaith felly'r canlyniad oedd cymryd cam yn ôl a pheidio mynegi'r hunaniaeth hynny.

Mae'n debyg fod 2018 yn flwyddyn dda ar gyfer podlediadau Cymraeg. Mae 'na llwyth o bodlediadau Cymraeg nawr, ac roeddwn i'n gobeithio fod gen i berspectif unigryw ar Gymru a Chymreictod i'w rannu.

Mae 'na ddigonedd o Gymru Cymraeg o Sir y Fflint, neu'n byw yn Llundain, ond prin mae lleisiau'r bobl yma yn cael eu clywed yng nghyfryngau Cymru - mae Clyw Cariad Yw yn ymdrech fach gen i i gysylltu â Chymry estron ar draws y byd.