Galwadau am ddatrys sefyllfa biniau 'afiach' Aberystwyth

Biniau Aberystwyth
Image caption Roedd y llanast i'w weld yn glir ar rai o brif strydoedd Aberystwyth fore Mawrth

Mae busnesau a phreswylwyr yng nghanol tref Aberystwyth yn dweud eu bod nhw wedi cael "llond bol" o'r llanast mae gwylanod yn ei wneud gyda bagiau sbwriel, ac yn galw am "chwyldro" i'r drefn o gadw gwastraff yn y dref.

Fore Mawrth, roedd sbwriel wedi ei ysgeintio ar hyd rhai o brif strydoedd canol Aberystwyth ar ôl i wylanod fynd drwy'r bagiau bin a oedd wedi cael eu gadael allan dros nos i'w casglu ben bore.

Fe welodd BBC Cymru Fyw bobl yn troedio rhwng y sbwriel wrth iddyn nhw geisio cerdded ar hyd y palmentydd, a dywedodd un perchennog busnes ei fod wedi gweld llygoden fawr "oedd maint ei droed" yn bwyta cynnwys o'r biniau.

Ar ôl i'r bagiau gael eu casglu roedd gweithwyr glendid stryd Cyngor Ceredigon yn clirio'r llanast gyda rhaw a brwsh.

Fis Awst y llynedd dywedodd busnesau yn Aberystwyth wrth BBC Cymru Fyw nad oedd system casglu gwastraff y dref yn gweithio, a bod angen newid y drefn.

Image caption Mae Sophia Ketsetzi a Keith Butler Morris yn berchen ar siop drin gwallt ar Heol Portland

Nawr mae un cynghorydd lleol yn dweud ei fod am i'r cyngor ystyried gosod biniau cymunedol "fel rhan o'r datrysiad i'r broblem".

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod "opsiynau ar gyfer gwella'r materion" ond bod rhaid i fusnesau "wneud defnydd cywir o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael iddynt".

'Pobl eu hunain sydd ar fai'

Mae bagiau bin o gartrefi a busnesau bach yng nghanol Aberystwyth yn cael eu casglu bob bore dydd Mawrth, ac ar hyn o bryd mae disgwyl i breswylwyr a busnesau osod eu bagiau du, ailgylchu a biniau bwyd y tu allan i'w hadeilad yn y bore cyn cael eu casglu.

Fore Mawrth, roedd Sofia Ketsetzi, sy'n gyd-berchennog siop drin gwallt Sophisticut ar Heol Portland, yn glanhau y stryd tu allan i'w drws gyda dŵr poeth a channydd.

"Mae'n hollol afiach yma," meddai.

"Mae'r gwylanod yn mynd i mewn i bob bag nos Lun, a'u rhwygo, ac yna ry ni'n gweld llygod mawr yn crwydro'r stryd o'n blaenau ni ar y dydd Mawrth, weithiau yng nghanol dydd, yn pigo ar y gweddillion.

"Fe wnaeth fy ngŵr sefyll ar un bythefnos yn ôl a'i ladd, ac roedd e'r un maint a'i esgid."

Image caption Yn aml rhaid cadw'r biniau gwyrdd mawr mewn lonydd tu ôl i fflatiau a siopau

Ond mae Ms Ketsetzi yn dweud bod angen i bobl gymryd cyfrifoldeb dros eu biniau eu hunain hefyd.

"Mae 'na lôn fach tu ôl i'r siop yma, lle mae biniau gwyrdd y fflatiau tu ôl i ni yn cael eu cadw, ond dydyn nhw ddim hyd yn oed yn eu rhoi nhw allan i gael eu casglu.

"Yn hytrach maen nhw'n eu gorlewni gyda bwyd a sbwriel arall, a'u gadael.

"Alla i ddim hyd yn oed agor fy nrws cefn i adael awyr iach i mewn i'r siop pan mae'n boeth, achos mae'r drws yn agor allan i'r lôn fach afiach 'na."

Llanast 'diawledig'

Un syniad sydd wedi cael ei grybwyll, ac a gafodd gefnogaeth mawr ar wefannau cymdeithasol, ydy gosod biniau cymunedol mawr mewn mannau penodol ar hyd y dref, fyddai'n cael eu gwagio'n aml a'u glanhau.

"Mae'r llanast yn ddiawledig ar hyn o bryd," meddai'r Cynghorydd Ceredig Davies, sydd â siop ar y stryd fawr, "ac mae'n rhaid i ni i gyd ddod at ein gilydd er mwyn dod o hyd i ddatrysiad".

"Mae'n rhaid i ni edrych ar syniadau chwyldroadol er mwyn datrys y mater unwaith ac am byth.

"Dwi wedi gofyn i'r aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros dros wastraff yng Nghyngor Ceredigion, i ystyried y syniad a'r costau o gyflwyno biniau cymunedol.

"Yn hanesyddol, wrth drafod y broblem flynyddol hon, maen nhw wedi dweud wrtha i nad oedd gan gynghorau yr hawl i wneud hynny, ac fe gymres i nhw at eu gair.

"Ond nawr wy'n ffeindio mas bod rhai cynghorau yn Lloegr yn gwneud hyn ers dros 10 mlynedd, felly pam na allwn ni ystyried rhwbeth tebyg yn Aberystwyth?"

Image caption Dyma'r biniau cymunedol sydd i'w gweld yn Brighton, sydd hefyd yn dref glan môr fel Aberystwyth
Image caption Mae'r gwylanod yn agor y bagiau sydd wedi cael eu gadael allan ar stryoedd canol Aberystwyth i gael eu casglu bob bore Mawrth

Mae Sofia Ketsetzi yn un sy'n gefnogol iawn o'r syniad.

"Dwi'n wreiddiol o wlad Groeg, biniau cymunedol sydd i'w cael yn fanno, ac maen nhw ar waelod pob stryd.

"Mae pobl yn mynd a'u sbwriel yno yn hytrach na'u casglu mewn biniau unigol tu fas i'w tai, ac mae'r biniau yma'n cael eu casglu yn gynnar bob bore.

"Does dim gwynt yna o gwbl, hyd yn oed yn y gwres llethol yno, achos unwaith yr wythnos mae'r biniau eu hunain yn cael eu casglu, a'u golchi, ac un glân yn cael ei rhoi yn ei lle.

"Dwi ddim yn deall pam na allen ni gael system fel 'na yma yn Aberystwyth."

Pobl i 'chwarae eu rhan'

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn annog "trigolion, ymwelwyr a busnesau i wneud defnydd cywir o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael iddynt... ac mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwastraff yn y ffordd cywir ac ar y diwrnod cywir".

Dywedodd y llefarydd bod "cyfrifoldeb ar y rhai sy'n cynhyrchu'r gwastraff i ddelio ag ef yn gyfreithiol ac yn gyfrifol" a bod y broblem yn "aml-wyneb".

"Gallai'r opsiynau ar gyfer gwella'r materion gynnwys darparu biniau cymunedol a chynhwyswyr gwrth-wylanod addas, gan gynnwys biniau a sachau, sydd ar gael yn barod ac yn cael eu defnyddio'n lleol.

Ond ychwanegodd y cyngor na ddylai'r mesurau "achosi mwy o broblemau nag y maent yn datrys" fel "rhwystrau ar y priffyrdd, tipio a gwaredu anghyfreithlon o wastraff masnachol a chyfyngiadau gwastraff eraill".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol