Y fyddin yn targedu myfyrwyr sydd 'dan bwysau'

Milwyr

Wrth i nifer o ddisgyblion orffen eu harholiadau TGAU, mae'r fyddin wedi cael eu beirniadu am geisio dylanwadu ar y rhai hynny sydd efallai dan bwysau neu'n ansicr am eu dyfodol.

Mae wedi dod i'r amlwg bod y fyddin wedi gwario £1.7m ar hysbysebion recriwtio ar wefannau cymdeithasol fel Facebook, ac mae un Aelod Seneddol Cymreig yn galw am godi'r oedran ar gyfer ymuno â'r fyddin.

Yn ôl aelod Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, mae'r fyddin yn "targedu unigolion".

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei bod yn naturiol i geisio recriwtio'r rheiny sy'n gadael yr ysgol neu goleg.

Hysbysebion Facebook

Dywedodd Ms Saville Roberts: "O weld eu bod nhw'n targedu pobl efallai ar ddiwrnod canlyniadau TGAU, a'r math o negeseuon ma' nhw'n anfon allan at bobl ifanc - negeseuon sy'n ymwneud â bod yn perthyn, fel bod hyn yn rhyw fath o glwb antur.

"Nid dyna fydd y cyfan o'u profiad nhw yn y fyddin o bell ffordd.

"Dylai'r fyddin fod yn dal yn ôl, fel maen nhw'n gwneud o fewn gwledydd eraill NATO. Hyd yn oed yn yr Unol Daleithiau, 17 oed ydy'r ieuengaf fedrwch chi gael eich recriwtio.

"'Da ni'n gwybod bod y fyddin wedi gwario £1.7m ar hysbysebion Facebook, gan dargedu pobl o gefndiroedd tlawd.

"Nid clwb i gael antur neu wneud ffrindiau am oes ydy'r fyddin. Pwrpas y fyddin ydy mynd allan yna a gwneud rhai o'r jobsys mwya' peryglus sy'n bodoli."

Image caption "Nid clwb i gael antur neu wneud ffrindiau am oes ydy'r fyddin" yn ôl Liz Saville Roberts

Ond mae eraill yn anghytuno ac yn dadlau bod y fyddin yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc.

Mae Ryan Roberts yn gyn-filwr, fu'n gwasanaethu mewn gwledydd fel Irac ac Afghanistan. Erbyn hyn mae'n hyfforddi yng ngholeg MPC ym Mangor, sy'n paratoi pobl ar gyfer gyrfa bosib yn y fyddin.

"Mae'r fyddin 'di targedu pobl ifanc erioed," meddai.

"Y rheswm eu bod nhw'n targedu mwy a mwy rŵan ydy bod gan bobl sy'n dod o Fangor neu Fethesda, er enghraifft, ddim y pres i fynd i brifysgol efallai.

"Mae'r fyddin yn cynnig cymwysterau, pres, gwaith.

"Mae lot o'r bobl ifanc dwi 'di ddysgu, maen nhw 'di gwneud pump neu chwe blynedd yn y fyddin, maen nhw 'di dod allan a gallu prynu tŷ, ceir eu hunain ac maen nhw 'di mynd 'mlaen i wneud lot o bethau gwahanol."

'Pedair neu bum mlynedd'

Ychwanegodd Mr Roberts bod pobl ifanc yn cael eu gwarchod yn y fyddin, a'u bod yn hŷn cyn cael eu gyrru i unrhyw le peryglus.

"Ma' nhw'n sôn am y bobl ifanc 16 oed 'ma yn mynd allan i'r fyddin, ond awn nhw ddim yn agos at y frontline nes eu bod nhw'n 18, 19 neu 20," meddai.

"Mae 'na hogiau a genod allan yna sydd ddim efo syniad be' maen nhw eisiau ei wneud.

"Os ydy'r bobl ifanc 'ma yn mynd mewn i'r coleg yn Harrogate, wedyn gweld bod nhw'n licio fo, licio'r cameraderie, pedair neu bum mlynedd maen nhw'n gorfod ei wneud ac wedyn maen nhw allan efo cymwysterau ac efo pres y tu ôl iddyn nhw."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Elis, Caio a Tanaka o'r Felinheli newydd gwblhau eu TGAU

Mae Elis, Caio a Tanaka o'r Felinheli ger Caernarfon newydd gwblhau eu TGAU, ac yn ôl Elis dyw hi ddim yn deg bod y fyddin yn targedu pobl eu hoedran nhw.

"Mae rhai pobl ifanc yn fregus ar y funud, ddim yn gwybod pa fath o ganlyniadau sy'n dod fis Awst," meddai.

Ychwanegodd Caio: "'Dwi ddim yn cytuno o gwbl hefo'r oedran ymuno. Ar ddiwedd y dydd, 'da chi'n mynd yno i ymladd, felly dwi'n meddwl bod 16 yn oedran lle dy'n nhw ddim digon aeddfed i ymdopi efo'r effeithiau."

Er bod Tanaka hefyd yn cytuno â'r farn honno, mae'n gweld bod y fyddin yn cynnig manteision i rai.

"Efallai efo'r canlyniadau, os 'da chi ddim yn rhy siŵr be' 'da chi eisiau ei wneud, mae'r fyddin yn opsiwn," meddai.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae'n naturiol eu bod nhw - fel cyflogwyr mawr eraill - yn anelu rhan o'u hymgyrch at recriwtio rhai sy'n gadael yr ysgol neu goleg, gan mai dyna pryd mae nifer yn penderfynu ar eu gyrfa i'r dyfodol.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol